Clwb Golff Treforys, 19 Ebrill
Trefnwyd y noson ar y cyd â Merched y Wawr, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg a fu'n cynnal cystadleuaeth arbennig i wau het newydd ar gyfer Russell.
Russell ei hun oedd yn beirniadu ac yn fuddugol roedd Shirley Best a enillodd wobr o £100 i gangen Gorseinon. Efallai y gwelwn yr het newydd yn ystod y gyfres newydd o Byw yn yr Ardd, a ddechreuodd nos Fercher 18 Ebrill.
Yn ôl Russell Jones, "Roedd hon yn noson arbennig iawn ac yn gyfle i gwrdd â'r gwylwyr a rhannu rhai o fy 'nhips' garddio hefo nhw. Mae'n grêt bod S4C yn mynd allan i'r cymunedau i siarad yn uniongyrchol â phobl sy'n gwylio ac yn cefnogi'r Sianel. I goroni'r cyfan, dwi'n gobeithio gwisgo'r het fuddugol yn ystod y gyfres! Llongyfarchiadau mawr i Shirley."