Clwb Criced a Phêl-droed Ynystawe, 24 Ebrill
Emyr Wyn, sy'n chwarae rhan Dai Sgaffalde, oedd y cwisfeistr ac yno i ymuno yn yr hwyl a chefnogi'r timoedd roedd Llinor ap Gwynedd (Gwyneth Jones), Jonathan Nefydd (Colin Evans), Emily Tucker (Sioned Rees), Rhys Bidder (Macs White) a Catrin Mai Huw (Gemma Charles).
Tîm Owain Rhys (5 mlwydd oed o Ysgol Gelli Onnen) oedd yn fuddugol, ac enillon nhw wobr o £200 fel rhodd ar gyfer 'Ward T' Ysbyty Treforys. Hefyd, fe gododd y raffl elusennol £51 er budd yr ysbyty.
Dywedodd Ceri Evans, Prifathro Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Dyffryn Aman, sydd hefyd yn ewythr i Owan Rhys ac yn aelod o'r tîm a'r buddugol:
"Am noson wych! Cwis ffantastig! Mae'n galonogol iawn fod S4C yn dod i'r gymuned i gwrdd â ni. Roeddwn wedi fy mhlesio bod offer cyfieithu ar gael ar gyfer y dysgwyr a'r di-Gymraeg yn ein plith. Bu farw ein tad y llynedd a hoffwn ni fel teulu ddiolch i staff Ysbyty Treforys a 'Ward T' yn benodol am ofalu amdano mor dda."
Dywedodd Emyr Wyn, "Fydde Pobol y Cwm ddim mor llwyddiannus oni bai am y gynulleidfa sydd wedi bod mor driw dros y blynyddoedd. Roedd cael mynd i gymuned glos fel Cwmtawe yn gyfle perffaith i ddiolch iddynt a chael tipyn o hwyl ar yr un pryd."