Rhosllannerchrugog, 25 a 26 Tachwedd
Sioe Nadolig Cyw a'i ffrindiau
Daeth plant yr ardal i'r Stiwt yn y Rhos i weld Sioe Nadolig hudolus Cyw a'i ffrindiau a oedd yn cynnwys rhai o hoff gymeriadau'r gwasanaeth Sali Mali, Jac y Jwc, Rapsgaliwn, Oli Odl, Betsan Brysur, Gareth a Rachael (Cyflwynwyr Cyw) a Cyw. Cafodd y gynulleidfa gyfle hefyd i gwrdd â chymeriad newydd sbon, Dona Direidi.