Wrecsam, 23 Tachwedd
Noson Cwis yng Nghwmni aelodau o gast Rownd a Rownd
Trefnwyd Cwis yng nghwmni aelodau o gast y gyfres ddrama Rownd a Rownd yng Nghlwb y Rheilffordd, Wrecsam, fel rhan o weithgareddau cymunedol Calon Cenedl S4C. Aelodau o grŵp Yma o Hyd, sef cefnogwyr clwb pêl-droed Wrecsam a ddaeth i'r brig ac ennill y wobr o £200 - a hynny llai na mis ers iddynt ddechrau ar eu hymgyrch nhw i gynorthwyo'r clwb Blue Square Premier yn ariannol drwy drefnu gweithgareddau i godi arian ar gyfer prynu chwaraewyr newydd.