Blaenau Gwent, September/October
Dacw Owain, milwr hyderus
Tarian a chleddyf, arwr pwerus
Tad a gŵr, capten mawr dewr
Ar faes y gâd yn ymladd fel llew
Owain, Owain ein tywysog cyfoethog
Cymru am byth! dan helmed aur, sgleiniog
A welwch chi Owain, y llew cryf
Yn arwain ei filwyr fel dŵr mewn llif
Mae ar gefn ei geffyl gyda'i darian
Yn dal ei gleddyf yn sgleinio'n arian
Yn gweiddi wrth amddiffyn ein tir ni
Pwy ydych yn meddwl ydych chi?
Awn ni gydag Owain, ein tywysog
Ein milwr dewr, clyfar, ein marchog
Yn erbyn Lloegr 'roedd e'n bwysig
Gyda Rhys a Gwilym, slei a ffyrnig
Ar gefn ei geffyl gwyn yn canu
"Dewch gyda ni i achub Cymru"
Dewch gydag Owain, ein tywysog
I ymladd nawr, ein arwr cyfoethog
Mae'n gwisgo helmed, arfwisg a tharian
A'i gleddyf llym yn sgleinio'n arian
Ond heddiw mae'n rhaid ymladd am yfory
Drwy siarad Cymraeg bob dydd dros Gymru