Wrexham, 8 and 9 December
The aim for children in Ysgol Bodhyfryd, Bryn Tabor, I.D Hooson, Min y Ddol, Plas Coch and Morgan Llwyd was to create brand new words. Here are a few of those wonderful poems:
Nacuwantan
Un tro yn Ne America,
pan gysgodd pawb yn dawel,
hedfanodd y Nacuwatan
i edrych am yr awel.
Hedfanodd drwy y bore,
hedfanodd drwy y nos,
a phan ffeindiodd yr awel,
fe gysgodd o yn dlos.
Graswyddnablïo
Rwy'n codi yn y bore,
rwy'n teimlo'n graswyddnablïo.
Mae Mam yn cerdded i fewn,
mae hi'n teimlo'n graswyddnablïo.
Rwy'n cerdded lawr y grisiau
ac rwy'n gweld Dad.
A mae o'n teimlo'n graswyddnablïo.
Aros - beth yw graswyddnablïo?
Jabblewabblelabble
Jabblewabblelabble.
Aderyn mawr tal,
lliwgar a swnllyd
sydd byth yn mynd yn sâl.
Jabblewabblelabble,
i fyny yn y nos.
Rwan mae'n byw mewn coed,
ond roedd o arfer dod o Rhos.
Ircadantodon
Pan ydw i'n teimlo'n drist,
dwi'n mynd rhywle'n bell.
Lle mae popeth yn lân ac yn wyn.
Y lle yw Ircadantodon.
Gyda phopeth dwi'n hoffi,
rhywle i ymlacio'n braf,
lle pell o bopeth trist yn y byd.
Dwi'n mynd i Ircadantodon.