Stori Cyn Cysgu
gan Amrywiol
ISBN 9781845270025 (1845270029)
Cyhoeddwyr Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Clawr meddal
Crynodeb y Llyfr
Casgliad cynnes o naw stori amrywiol wedi eu darlunio'n chwaethus gan naw awdur a phedwar darlunydd i'w darllen i blant cyn iddynt fynd i gysgu; i blant 3-7 oed.
A warm collection of nine tastefully illustrated diverse bedtime stories by nine authors and four illustrators; for children aged 3-7 years old.
Adolygiadau llyfrau
Dyma farn Nesta a Gron Elis, am y llyfr hwn:
Casgliad o storïau diddorol, ac amrywiol o ran testun. Awgryma’r clawr fod gwledd o’n blaenau a rhaid llongyfarch yr artist am greu clawr sy'n sgwrs ynddo’i hun. Dyma flas o'r storïau: 'Morgan a’r Mat' gan Helen Emmanuel Davies: Stori gelfydd gyda thro slic ar y diwedd. Mae’n datgelu fel y gall cyntun bach ar y mat droi'n anturiaeth ryfeddol yn nhywod yr anialwch. Hoffwn, fodd bynnag, fod wedi cael mat mwy lliwgar! 'Stori Fach Ddistaw' gan Angharad Tomos: Yma ceir stori llawn hiwmor wedi ei hadrodd o safbwynt pry copyn. Tipyn o gymêr yw Methiwsala. Stori gyfforddus cyn noswylio a’r lluniau’n ychwanegiad diddorol. 'Cachgi-Bwm' gan Caryl Lewis: Stori fach sy'n mynd â ni i ganol prydferthwch byd natur ac yn wers ynddi ei hun – na ddylem amau cyfeillgarwch cyn dod i nabod ein gilydd yn iawn. Yma mae’r Cachgi Bwm yn newid ei ymddangosiad yn llwyr er mwyn gwneud ffrindiau, ond beth ddigwyddodd? Mae’r disgrifiad ohono yn setlo ym mhetalau’r blodyn yn gampwaith bychan. Mae’r lluniau’n ogleisiol a lliwgar. 'Gadael y Nyth' gan Elin Meek: Ceir hanes gwennol fach nerfus yn gwneud campau rhyfeddol i ddangos caredigrwydd ac yn troi’n arwr. Stori dda gyda sgwrsio naturiol. 'Fi Fy Hun' gan Gordon Jones: Stori am dylwythen deg fach ddrwg yn ceisio twyllo bachgen bach caredig. Tybed pwy enillodd y dydd? 'Gwlad y Gwalltiau Gwyllt' gan Bethan Gwanas: Tybed beth sy’n digwydd os nad ydych yn brwsio’ch gwallt yn ddyddiol? Stori ryfedd am yr hyn all ddigwydd! Ceir yma ddisgrifiadau hynod o ddigri. 'Titw’n Anghofio Eto' gan Myrddin ap Dafydd: Stori am Titw’n anghofio beth oedd wedi ei anghofio! Efallai fod tuedd i fod braidd yn gymysglyd ar y dechrau, ond cafwyd digon o hwyl wedyn gyda theulu o dylluanod yn mynd ar wibdaith i lan y môr. 'Y Tywysog Bach Blệr' gan Haf Llewelyn: Anfonodd ei fam ef i dŷ ei nain i ddysgu sut i fod yn dwt. Tybed a lwyddodd hi? Stori ddoniol. 'Bleddyn Blewyn Hir' gan Iola Jôns: Stori fach annisgwyl am gath fach yn cael ei bwlio, ond mae yma ddiweddglo hapus i fwy nag un! Dyma gasgliad o straeon gwerth chweil ar gyfer plant bach. Bydd yn anrheg Nadolig a gaiff ei gwerthfawrogi’n fawr. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Rho dy farn di am y llyfr hwn nawr!
Nôl

Diolch i
Gyngor Llyfrau Cymru am ddarparu lluniau’r cloriau a gwybodaeth am y llyfrau ar gyfer y wefan hon. Os hoffech chi brynu'r llyfrau hyn ewch i'ch siop lyfrau leol neu os oes anhawster i siop
www.gwales.com ar-lein.