book cover

Y Clefyd Pêl-Droed
gan Alan Durant

ISBN 9781843236719 (1843236710)
Cyhoeddwyr Gwasg Gomer, Llandysul
Clawr meddal

Barn pobl eraill am y llyfr hwn:
 (4.5/5)
Adolygu’r llyfr hwn

Crynodeb y Llyfr

Mae Siôn yn siarad am bêl-droed yn ddi-baid ac yn gwneud dim ond cicio a chwrso pêl drwy'r dydd.

Siôn talks about football incessantly and spends all day playing with his football.


Adolygiadau llyfrau

Dyma farn Gwion, Caerdydd am y llyfr hwn:
 (4/5)
Dwi'n hoffi'r llyfr yma oherwydd fy mod i'n mynd chwarae peldroed - fel yn y llyfr - bob dydd Sadwrn hefyd
Rho dy farn di am y llyfr hwn nawr!

Dyma farn Marian Roberts, am y llyfr hwn:
 (5/5)
Stori fywiog, fyrlymog yw hon, mewn diwyg hynod o liwgar ar gyfer yr oedran 5 i 7 oed – a stori sy’n hynod o amserol o gofio bod holl firi Cwpan y Byd ar y gorwel! Y chwaer fawr sydd yma yn dweud hanes ei brawd bach, ac rwy’n siŵr ein bod i gyd yn adnabod rhywun fel Siôn fydd yn methu peidio siarad am gêm y bêl gron hyd at syrffed yn ystod yr wythnosau i ddod. Fel Siôn yn y stori, bydd pob bachgen bach yn cicio peli o bob siâp a maint, cerrig, hen dun – neu unrhyw beth sy’n sefyll yn llonydd! Rhaid cael crys a sgidia addas ac ymuno â thîm, ac wrth chwarae’r gêm, defnyddio’r eirfa wych a geir yn y llyfr – megis cic rydd, camsefyll, amser ychwanegol, cerdyn coch. Geirfa Gymraeg y dylai pob darpar bêl-droediwr bach ei mabwysiadu cyn syrthio i’r fagl o ddefnyddio’r termau Saesneg. Bron nad ydy rhywun yn clywed llais sylwebydd fel John Hardy yn ei glustiau wrth ddarllen y geiriau ‘heibio i’r gôl geidwad ac yn syth i gefn y rhwyd – dyna Gôl!’ Dyma lyfr at ddant ein bechgyn bach, a rhai genethod hefyd rwy’n siŵr. Ychwanegiad rhagorol i’r silff lyfrau am bris rhesymol. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Rho dy farn di am y llyfr hwn nawr!

Nôl

G walesDiolch i Gyngor Llyfrau Cymru am ddarparu lluniau’r cloriau a gwybodaeth am y llyfrau ar gyfer y wefan hon. Os hoffech chi brynu'r llyfrau hyn ewch i'ch siop lyfrau leol neu os oes anhawster i siop www.gwales.com ar-lein.

Pori drwy'r llyfrau

Llyfrau tebyg

book cover

Mam-gu Penrhiw a'r Barcud Coch Olaf gan Malachy Doyle

Stori am Mam-gu Penrhiw a'i hwyres Lowri. Mae Lowri wrth ei bodd yn gwrando ar straeon am y barcutiaid cochion ... Mwy am y llyfr hwn

book cover

Dyna Syrpreis! gan Piers Harper

Addasiad Cymraeg o Snow Bear's surprise, llyfr anwes hyfryd am arth eira bach a'i ffrindiau yn addurno ei ffau yn ... Mwy am y llyfr hwn

book cover

Wmff! gan Colin McNaughton

Addasiad Cymraeg o Oomph!, stori ddoniol a thyner wedi ei darlunio'n lliwgar am y cymeriad poblogaidd Meurig y mochyn yn ... Mwy am y llyfr hwn