Wini'r Wrach
gan Valerie Thomas
ISBN 9780863839559 (086383955X)
Cyhoeddwyr Gwasg Gomer, Llandysul
Clawr meddal
Crynodeb y Llyfr
Stori ddifyr i blant ifainc am Wini’r Wrach sy’n byw mewn ty du ac yn cael trafferth i weld Mali, ei chath ddu. Ond mae hudlath gan Wini! Darluniau llawn lliw. Cyhoeddwyd gyntaf Ionawr 1992.
An adaptation of Winnie the Witch, a story about a witch living in a black house who makes use of her magic wand to see her black cat. Colourfully illustrated. First published in January 1992.
Adolygiadau llyfrau
Dyma farn Helen Williams, Bridgend am y llyfr hwn:
On-line buyers - you cannot see inside the pages. If you could, you would definitely buy it. The story is charming the pictures fascinating - probably the best I have seen in a book aimed at 3-6 year olds.
Rho dy farn di am y llyfr hwn nawr!
Dyma farn Dai Bennett, Crymych am y llyfr hwn:
Os wyt ti’n rhiant sy’n chwilio am lyfr da i blant, (fel yr ydw i), mae hwn yn un ohonyn nhw!! Mae Wini’n wrach da a normal ond weithiau mae’n drysu wrth chwifio ei ffôn hudolus. Ceir tair stori ddifyr at lefel blant; 3 i 7 oed. Hyd y cynnwys yn berffeth ar gyfer plentyn a rhieni. Ma’r delweddau yn hyfryd a manwl… rwy’n caru’r llyfr hwn!
Rho dy farn di am y llyfr hwn nawr!
Dyma farn Mari Rhian Owen, am y llyfr hwn:
Stori syml a geir yn y llyfr hwn sy’n dilyn hynt y wrach annwyl, Wini, wrth iddi ddatrys problem diffyg lliw yn ei byd. Er mai prin yw geiriau’r stori, a’r stori honno’n dibynnu ar ailadrodd patrwm, eto i gyd mae dyfnder lluniau’r llyfr, eu manylder a hiwmor y ffurfiau yn darlunio’r berthynas ddifyr sy’n bodoli rhwng y cymeriadau Mali a Wini. Ceir doniolwch hefyd wrth i ymdrechion Wini i newid lliw ei chath er mwyn gallu’i gweld yn well achosi problemau annisgwyl iawn. Ceir y teimlad o ddiniweidrwydd byd y plentyn yma a’r angen weithiau i ddyfalbarhau a cheisio dulliau gwahanol wrth ddatrys problem. Dyma stori, yn sicr, a fydd yn rhoi pleser i ddarllenwyr annibynnol a llyfr hyfryd i’w rannu yn y dosbarth neu’r cartref. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Rho dy farn di am y llyfr hwn nawr!
Nôl

Diolch i
Gyngor Llyfrau Cymru am ddarparu lluniau’r cloriau a gwybodaeth am y llyfrau ar gyfer y wefan hon. Os hoffech chi brynu'r llyfrau hyn ewch i'ch siop lyfrau leol neu os oes anhawster i siop
www.gwales.com ar-lein.