book cover

Ar Goll ar y Traeth
gan Ian Beck

ISBN 9781843231127 (1843231123)
Cyhoeddwyr Gwasg Gomer, Llandysul
Clawr meddal

Barn pobl eraill am y llyfr hwn:
 (5/5)
Adolygu’r llyfr hwn

Crynodeb y Llyfr

Addasiad Cymraeg o Lost on the Beach, stori dyner gyda darluniau lliw hudolus yn adrodd hanes anturiaethau cyffrous tedi pan aiff ar goll yn ystod ymweliad i lan y môr; i blant 3-5 oed.

A Welsh adaptation of Lost on the Beach, a tender story with charming colour illustrations relating teddy's exciting adventures when he gets lost during a day out at the seaside; for 3-5 year old children.


Adolygiadau llyfrau

Dyma farn Gwenllïan Dafydd, am y llyfr hwn:
 (5/5)
Dyma lyfr bach hynod ddeniadol i blant bach, yn adrodd hanes Tedi yn mynd ar goll. Mae’r stori yn syml ac uniongyrchol, a’r lluniau lliwgar yn apelgar ac yn annog sgwrs. Gellid dweud yr un peth am bedair stori’r gyfres, cyfres sy’n llawn anturiaethau Tedi wrth iddo fynd ar goll mewn amrywiol lefydd, ond wastad â diweddglo hapus, diolch byth! Os mai maen prawf llenyddiaeth dda yw ennyn amrywiol deimladau yn y darllenydd, yna gall y llyfr hwn fod efo’r goreuon! Mae ymateb plentyn wrth ei ddarllen yn dweud y cyfan: yr ofn wrth i’r ffrind bach gorau, y Tedi, gael ei adael ar ôl; y dychryn wrth i’r ci ei lusgo i ffwrdd; y braw a’r arswyd fod Tedi yn awr yn ‘bell, bell i ffwrdd’; cynhesrwydd y cyfeillgarwch wrth i’r wylan ei godi; y dychryn a’r ofn eto wrth iddo syrthio o’r awyr a’r rhyddhad dros dro gyda’r geiriau ‘Dyna lwc!’. Ac yna’r hwyl a’r chwerthin wrth iddo syrffio yn arwain at y rhyddhad a’r gorfoledd o gyrraedd yn ôl i freichiau’i berchennog yn hapus ar y diwedd. Gall y darllenydd fynd ar daith emosiynol gyda Tedi, a’r cyfan yn helpu’r plentyn i ddeall ac i fynegi teimladau. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Rho dy farn di am y llyfr hwn nawr!

Nôl

G walesDiolch i Gyngor Llyfrau Cymru am ddarparu lluniau’r cloriau a gwybodaeth am y llyfrau ar gyfer y wefan hon. Os hoffech chi brynu'r llyfrau hyn ewch i'ch siop lyfrau leol neu os oes anhawster i siop www.gwales.com ar-lein.

Pori drwy'r llyfrau

Llyfrau tebyg

book cover

Watsh Anweledig Wil gan Brett McKee

Stori fywiog a doniol am fachgen bach sy'n gwybod faint o'r gloch yw hi bob amser gan fod ganddo watsh ... Mwy am y llyfr hwn

book cover

Y Rhywbeth Bach gan Joyce Dunbar

Stori dyner wedi ei darlunio'n hyfryd am gynhesrwydd a llawenydd y cyfeillgarwch rhwng arth ifanc a'r cymeriad bach ddaw'n ffrind ... Mwy am y llyfr hwn

book cover

Sâl Wyt Ti, Sam? gan Amy Hest

Stori ddarluniadol am Sam yr arth fach yn derbyn cysur a gofal cariadus gan ei fam pan fo'n teimlo'n sâl ... Mwy am y llyfr hwn