book cover

Mam-gu Penrhiw a'r Barcud Coch Olaf
by Malachy Doyle

ISBN 9781843237327 (1843237326)
Published by Gwasg Gomer, Llandysul
Paperback

Others have rated this book:
 (5/5)
Review this book

Book Synopsis

A story featuring Mam-gu Penrhiw and her granddaughter Lowri. Lowri loves hearing about the last red kites which nested on the farm when her grandmother was a little girl. The environment is an important theme as is Welsh conservation. Suitable for readers aged 5-8+ years. This is a translation of the book 'Granny Sarah and the last Red Kite'.

Stori am Mam-gu Penrhiw a'i hwyres Lowri. Mae Lowri wrth ei bodd yn gwrando ar straeon am y barcutiaid cochion oedd yn nythu ar y fferm pan oedd Mam-gu yn fach. Mae'r amgylchedd a chadwraeth yn themâu pwysig. Addas i ddarllenwyr 5-8+ oed. Addasiad o'r llyfr 'Granny Sarah and the last Red Kite'.


Categories:

Book Reviews

Rhiannon Wyn Parry, rated this book:
 (5/5)
Dyma un arall o addasiadau Elin Meek i’r Gymraeg – o waith Malachy Doyle y tro hwn. Mae lluniau Petra Brown yn draddodiadol, ond eto’n ddeniadol tu hwnt. Rwy’n sicr y byddant yn ennyn diddordeb amryw o blant i ddarllen y llyfr annwyl hwn ynghylch barcutiaid coch yng Nghymru. Yn wir, mae’r lluniau mor fanwl fel y gallai plentyn ddilyn y stori’n weddol rwydd drwy gyfrwng y llun yn unig. Credaf y gellid defnyddio’r llyfr hwn gydol adran iau yr ysgol gynradd. Byddai’r plant ieuengaf wrth eu bodd yn gwrando ar y stori hyfryd am sut y ceir barcutiaid coch yng Nghymru hyd heddiw. Darlunnir perthynas Lowri a’i mam-gu yn hudolus o gelfydd drwy gyfrwng ymwneud y fam-gu â’i hamgylchfyd gwledig pan oedd hi'n blentyn. Ceir hanes y fam-gu yn achub y pâr olaf o farcutiaid yng Nghymru, a dyma’n wir sy’n ychwanegu rhywfaint o antur i’r adrodd stori hyfryd. Cawn glywed mai braint y fam-gu oedd gwarchod y pâr o farcutiaid a oedd yn nythu mewn coeden dderwen ar eu fferm. Un diwrnod mae’n gweld bachgen ifanc yn ceisio dwyn wyau o’r nyth. Ond buan y sylweddolwn nad lleidr barus mohono, ond yn hytrach bachgen yn ceisio cael rhywfaint o arian i’w deulu am fod ei dad yn ddi-waith. Cyffyrddir yma â thema y gellid ei defnyddio i ysgogi trafodaethau gyda gwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Yng nghefn y llyfr ceir rhywfaint o wybodaeth ffeithiol am y barcud coch yng Nghymru heddiw, gwybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol iawn fel ffynhonnell i blant hŷn sy’n gwneud prosiectau ymchwil, ac ati. Ceir yma hefyd gyfeirio at wefannau defnyddiol i ehangu gwybodaeth y plant am sefyllfa’r barcud coch ac ychwanegu at ddefnydd y plant o gyfrifiaduron! Llyfr hyfryd sy’n werth ei gael am ei stori ac sydd hefyd yn cyfrannu at y Cwricwlwm Cymreig. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Tell us what you thought of this book now!

Back to results

G walesWe thank the Welsh Books Council for providing cover images and information of each book contained in this website. If you wish to purchase any of these books please visit your local bookshop or in case of difficulty visit www.gwales.com.

Browse the books

Similar books

book cover

Watsh Anweledig Wil by Brett McKee

A lively and humorous story about a young boy who always knows the time as he has an invisible watch. ... View this book

book cover

Ben y Garddwr by Mary Vaughan Jones

Four short stories about the adventures of Ben the gardener. ... View this book

book cover

Guto a Gwyn ar y Fferm by Adrian Reynolds

A story about Guto and his teddy Gwyn learning to count from one to ten as they help Grandfather to ... View this book