Dwy Droed Chwith
by Jenny Sullivan
ISBN 9781859026892 (1859026893)
Published by Gwasg Gomer, Llandysul
Paperback
Book Synopsis
A Welsh translation of a sensitive story about a disabled boy who overcomes his walking disabilities during a school trip, and helps an able boy to overcome his own problem; for 5-8 year old children.
Cyfieithiad Cymraeg o stori deimladwy am fachgen anabl yn goresgyn ei anawsterau cerdded yn ystod gwibdaith ysgol, gan gynorthwyo bachgen abl i oresgyn ei broblem yntau; i blant 5-8 oed.
Book Reviews
Phoebe, Bridgend rated this book:
roedd yr llyfr yn diddorol iawn iawn
Tell us what you thought of this book now!
Angharad Williams, rated this book:
Dyma lyfr wnes i ei fwynhau’n fawr iawn. Mae’n llawn lluniau arbennig gyda digon o fynegiant yn wynebau’r cymeriadau. Bryn yw’r prif gymeriad, bachgen sydd â choesau cam ac yn gorfod defnyddio ffrâm arbennig gydag olwynion arni i’w helpu i gerdded. Er ei anabledd, mae Bryn ar y cyfan yn fachgen hapus ac mae ganddo ffrindiau da fel Bethan. Ond mae ambell un fel Owain nad ydynt yn gystal ffrindiau! Yma cawn hanes taith addysgol i ymweld â’r castell lleol. Caiff Bryn siom na chaiff ddringo i ben y Tŵr Mawr gyda’r gweddill. Tybed pam nad oedd yn gweld Owain ar ben y tŵr gyda’r gweddill? Wel . . . does dim angen i mi ddweud popeth! Yna, caiff y disgyblion gyfle i grwydro o gwmpas ar eu pennau eu hunain, a beth mae Bryn yn ei wneud? Mae’n dangos ei fod yn fachgen penderfynol iawn ac i ffwrdd ag ef i ddringo’r grisiau a chyrraedd pen y Tŵr Mawr. Drwy’r llyfr ceir digon o gyfleoedd i drafod teimladau’r cymeriadau ac i’w cymharu â theimladau’r darllenwr neu’r gwrandäwr. Mae’n stori wych fel sbardun i drafod anabledd, wynebu ofnau neu beth sy’n gwneud ffrindiau da. Llyfr addas ar gyfer y cartref a’r ysgol i blant 5 i 8 oed. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Tell us what you thought of this book now!
Back to results

We thank the
Welsh
Books Council for providing cover images and information of each book contained in this website. If you wish to purchase any of these books please visit your local bookshop or in case of difficulty visit
www.gwales.com.