Cawl Pwmpen
by Helen Cooper
ISBN 9781902416045 (190241604X)
Published by Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Hardback
Book Synopsis
A Welsh adaptation of Pumpkin Soup, a charming story with enchanting colour pictures about three friends, a Cat, Squirrel and Duck who are masters at cooking a pumpkin broth, but who face a crisis when one of them decides one day that she wants to stir the broth! Suitable for 5-7 year old children.
Addasiad Cymraeg o Pumpkin Soup, stori lawn swyn a lluniau lliw cyfareddol am dri chyfaill, Cath, Gwiwer a Hwyaden, sy'n feistri ar goginio cawl pwmpen arbennig, ond sy'n wynebu argyfwng pan fo un ohonynt yn penderfynu un diwrnod mai hi sy'n troi'r cawl! Addas ar gyfer plant 5-7 oed.
Book Reviews
Blwyddyn 1 Ysgol Y Login Fach,, Waunarlwydd, Abertawe rated this book:
Mae'r stori'n dda. Mae'r lluniau yn ffantastig ! Rydyn ni'n hoffi'r rhan pan mae'n nhw'n coginio'r cawl a phan mae'r wiwer a'r gath yn poeni bod yr hwyaden wedi cael ffrindiau newydd ac hefyd pan ddaeth y ffrindiau yn ol at ei gilydd.
ON Rydyn ni yn hoffi gwefan darllendafi hefyd !
Tell us what you thought of this book now!
Alaw Jenkins, Caerdydd rated this book:
Rwy’n dysgu plant yr ail flwyddyn felly rwy’n bob amser yn chwilio am lyfrau llun o safon da. Hwn yw fy ffefryn ar hyn o bryd a mae’r tri dosbarth sydd wedi ei ddarllen yn hoff iawn o Hwyaden, Wiwer and Cath. Mae’n ddechrau gwych ar gyfer ysgrifennu a dylunio creadigol, yn yr Hydref wrth gwrs, gyda dosbarth yn llawn pompiynau a cawl yn berwi yn y gegin!
Tell us what you thought of this book now!
Sally Taylor, Croesoswallt rated this book:
Hwn oedd yr ail lyfr wnaeth hudo fy mab, ac er ei fod yn dair oed nawr mae e dal yn ddwl am y stori. Mae’r delweddau yn anhygoel sy’n denu darllenwyr at y stori. Mae fy mab oedd arfer fod yn ddarllenwr swil nawr yn ddarllenwr brwd dros ben - diolch i Helen Cooper!
Tell us what you thought of this book now!
Nia Gruffydd, rated this book:
Profiad chwerwfelys a geir wrth ddarllen y stori hon, sy’n cynnig digon i feddwl a siarad amdano. Mae Hwyaden, Wiwer a Cath yn byw’n ddigon hapus yn y Caban yn y coed a phob un yn hapus gyda’i waith ei hun, hyd nes y daw’r diwrnod pan fo Hwyaden yn penderfynu mai ei thro hi yw troi’r cawl. Mae’r tri ffrind yn ffraeo ac mae Hwyaden yn pwdu ac yn penderfynu gadael y tŷ. Yr hyn sy’n wych am y stori yw sut y darlunnir sefyllfaoedd cyfarwydd i bawb yma, yn cynnwys eiddigedd, balchder, brifo teimladau, ac wrth gwrs edifeirwch. Dengys y stori hon yn gelfydd iawn bod ffrindiau weithiau yn ffraeo dros bethau gwirion, ond bod poeni am ein gilydd a maddeuant yn bethau pwysig iawn. Nid yw’n stori drom chwaith gan fod cynhesrwydd a hiwmor yn y dweud, a miwsig yn sŵn y geiriau yn yr addasiad hwn gan Dylan Williams. Mae’n stori ardderchog i’w darllen yn uchel. Mae prydferthwch a medr artistig manwl y lluniau yn wledd i’r llygaid ac yn cynnig digon o ddeunydd i ysgogi'r meddwl ac i ddifyrru plant dan saith oed. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Tell us what you thought of this book now!
Back to results

We thank the
Welsh
Books Council for providing cover images and information of each book contained in this website. If you wish to purchase any of these books please visit your local bookshop or in case of difficulty visit
www.gwales.com.