book cover

Yr Arth yn y Cwtsh dan Stâr
by Helen Cooper

ISBN 9780948930546 (0948930543)
Published by Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Hardback

Others have rated this book:
 (4/5)
Review this book

Book Synopsis

A Welsh adaptation of The Bear under the Stairs, an enchanting picture story-book for young children about a fearful boy who feeds an imaginary bear.

Stori llyfr-a-llun hudolus i blant bach am fachgen ofnus sy'n bwydo arth ddychmygol, gan awdur Y Plentyn nad oedd am Gysgu.


Book Reviews

Siwan Wyn, rated this book:
 (4/5)
I mi mae diwyg y llyfr yma’n hyfryd. Mae’r lluniau’n hynod atmosfferig, yn gynnes a deniadol, gyda rhyw naws draddodiadol iddynt. Mae’r stori ei hun yn un syml, hudolus, sy’n ennyn chwilfrydedd plant yn syth. A yw Wiliam wir wedi gweld arth yn y cwtsh dan stâr? Mae’n ei fwydo ac yn gallu tynnu ei lun yn fyw iawn. Mae’n rhaid felly fod rhywbeth yn y cwtsh dan stâr? Dychymyg plentyn yw gwraidd holl hudoliaeth y stori hon, ond yn anffodus, mae’r addasiad wedi torri braidd ar y rhin yma i mi. Mae’r iaith yn tueddu i fod yn anodd, y brawddegau’n gymhleth ac amlgymalog a cheir nifer o ferfau cryno. Byddai angen plentyn aeddfed o ran oed darllen i fedru darllen y llyfr yma’n annibynnol ac rwy’n sicr y byddai sawl rhiant hefyd yn gwyro oddi ar y testun wrth ei ddarllen yn uchel. Fodd bynnag, mae’r berthynas rhwng Wiliam â’r arth yn un annwyl tu hwnt. Ceir yma ofnau a chyfrinachau plentyndod, wedi eu plethu’n hyfryd yn nychymyg y bachgen bach. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Tell us what you thought of this book now!

Back to results

G walesWe thank the Welsh Books Council for providing cover images and information of each book contained in this website. If you wish to purchase any of these books please visit your local bookshop or in case of difficulty visit www.gwales.com.

Browse the books

Similar books

book cover

Arhoswch i fi! by Jonathan Emmett

A Welsh adaptation of Someone Bigger, a lively and colourful story in rhyming form portraying the troubles of a young ... View this book

book cover

Sâl Wyt Ti, Sam? by Amy Hest

An illustrated story about Sam the little bear receiving tender, loving care from his mother when he feels unwell one ... View this book

book cover

Wendi Wlanog a Lili’r Wyddfa by Siân Lewis

An original story about Wendi the sheep creating havoc on her journey as she looks for the rare Snowdon lily. ... View this book