Cynhaliwyd sesiwn stori bendigedig yn Llyfrgell Bae Colwyn 29 Rhagfyr.
Cynhaliwyd sesiwn stori bendigedig yn Llyfrgell Bae Colwyn dydd Mercher 29 Rhagfyr. Daeth 10 rhiant a'u plant ynghyd â dros dwsin o blant o'r feithrinfa lleol i wrando ar Lynne Bethan Jones yn darllen 'Y Bachgen Bach Sinsir'. Ar ôl darllen y stori yn ddwy-ieithog, fe wnaeth bawb mwynhau gwneud bisgedi bach sinsir ei hunain! Y gobaith yw cynnal mwy o sesiynau stori yn y Flwyddyn Newydd felly cofiwch edrych ar y wefan yn aml am fwy o wybodaeth.