Proffil Cymeriadau
Dwi wrth ‘y modd yn garddio, fel y’ch chi yn gw'bod, yn enwedig os alla i ga'l yr ardd yn barod cyn Dwmplen Malwoden! Roeddwn i mas yn sgubo’r dail, pan welais draenog bach wedi’i lapio’n gynnes mewn llwyth o ddail crin. Ges i afael ar y llyfr MYMRYN BACH O’R GAEAF, a’i ddarllen yn y fan a’r lle. Es draw wedyn i brynu planhigion, a gweld llyfr BEN Y GARDDWR. Wel, fe ges i sbort wedyn yn darllen hwnnw. Ydych chi’n hoffi garddio?
Nôl i’r brig
Chi’n gwbod, dim ond un peth sy’n well na darllen stori ar DARLLEN ‘DA FI! – sef darllen eich stori eich hunan ar DARLLEN ‘DA FI!. Fe sgrifennes i stori DEWI, DWPSI A’R DREIGIAU dipyn yn ôl, ac mae’n dweud hanes bachgen bach o’r enw Dewi sy’n sylweddoli un diwrnod fod yr holl ddreigiau wedi diflannu oddi ar faneri Cymru! Dychmygwch y peth! A hynny jest cyn gêm bêl-droed bwysig iawn rhwng Cymru a Lloegr hefyd. Tybed a fydd Dewi, gyda help ei ffrind gore, Dwpsi, yn llwyddo i gael gafael ynddyn nhw?
Nôl i’r brig
Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n darllen llyfr tra’n gorwedd ar ganghennau coeden, ond dyna’n union ddigwyddodd pan es i ati i ddarllen DAWNSIA, DILWYN LINDYSYN. Wnes i erioed feddwl ‘chwaith y byddwn i’n dweud stori am fotobeics tra bod tri o fechgyn lleol yn ymarfer eu sgilie y tu ôl i fi. OLWYNION TWM TWRCH yw enw’r llyfr, ac mae’n llawn hwyl. Dwi’n arbennig o hoff o’r gerddoriaeth ffynci!
Nôl i’r brig
Ma' Plismon Puw wedi bod yn arwr i mi ers amser maith iawn, felly pan ges i gyfle i ddarllen PLISMON PUW A’R GLAW MAWR, mi o’n i wrth fy modd. Ar ben y cyfan, mi ges i fynd i Orsaf Heddlu Aberystwyth, a darllen y stori mewn car heddlu tra ‘mod i’n aros i’r Cwnstabl Simon Griffiths fynd â fi i Landdedwydd i weld y dyn ei hun. A wnewch chi fyth ddyfalu be ddigwyddodd wedyn – do, mi ges i fynd yn y car hefo’r seiren ymlaen a’r gola glas yn fflachio. Dyna i chi siwrne wych!
Nôl i’r brig
Fel Bardd Plant Cymru 2006, mae barddoniaeth yn arbennig o bwysig i mi, felly dwi wedi dewis darllen UN DRWG DRWG YW EDWYN, gan fod y stori i gyd yn odli! Hanes cwningen ddrwg sydd yn y llyfr Рa deud y gwir, mae'r gwningen yma'n dipyn o fwli - ond hefo ychydig o berswâd, ma hyd yn oed y cwningod mwyaf drwg yn medru newid!
Nôl i’r brig
Wel, o'n i ddim yn gwbod beth i weud pan ofynnon nhw i fi ddarllen un o'r llyfre yn y gyfres newydd 'ma, ond pan weles i WINI'R WRACH, o'n i'n gwbod yn syth bo fi'n mynd i fwynhau. Mae'n stori wych am y wrach ddoniol 'ma sy'n byw gyda'i chath mewn ty du, ond erbyn y diwedd, a diolch i Mali'r gath, mae'r ty'n lliwgar iawn. O'n i wedi anghofio gymaint o hwyl o'dd darllen stori dda. Dwi'n mynd i brynu lot mwy o lyfre o hyn ymla'n.
Nôl i’r brig
Helô ‘na, a sut ‘dach chi heddiw? Dyna i chi braf, yntê, ‘mod i’n cael darllen storïau da i chi yn y gyfres wych ‘ma, ac yn cael mynd am ambell dro yn y car bach coch. Ond ar gyfer MAE MALI EISIAU MWY, mi ges i yrru tacsi’r Pry Bach Tew – do, wir! – ac mi ges i hedfan barcud wrth ddarllen ARHOSWCH I FI. Ond y peth gorau un, un, oedd cael darllen BATH MAWR COCH – a hynny yn y bath!
Nôl i’r brig
On’d yw amser y Nadolig yn amser hyfryd? Amser i’r holl deulu fod gyda’i gilydd yn dathlu, yn bwyta, ac wrth gwrs yn darllen. Ond cyn y diwrnod mawr, rhaid prynu anrhegion i bawb, ac ma hynny bob amser yn anodd on’d yw e? Mi o’n i wedi llwyddo’n arbennig o dda eleni, heblaw am un person – fy nai bach i, Joni Soch. Ma popeth gydag e, chi’n gweld, yn debyg iawn i’r mochyn bach yn y stori CRISPIN, ROEDD POPETH GAN Y MOCHYN HWN. Ond mi ges i ysbrydoliaeth erbyn diwedd y rhaglen – diolch i Crispin.
Nôl i’r brig
Pan ofynnon nhw i fi ddewis fy hoff lyfr, wel dim ond un dewis oedd yn bosib, sef SEREN LOWRI. A choeliwch chi fyth, ond mi wnes i ddarllen hon yn ‘y ngwely – roedd hi’n stori berffaith cyn cysgu. Gyda’r Nadolig yn dod, mi benderfynes i ddarllen UN NOSON OER . Mi fedrwch chi deimlo’r het fach goch yn y stori yn feddal, feddal ar y clawr ac ar bob tudalen o’r stori. Hyfryd!
Nôl i’r brig
Rydan ni wrth ein boddau'n cael cyfle i weithio gyda'n gilydd, yn enwedig os oes cyfle hefyd i chwarae pêl-droed! A dyna ddigwyddodd pan aethon ni ati i recordio'r llyfr Y CLEFYD PÊL-DROED. Hanes brawd a chwaer sydd yn y llyfr, a gan ein bod ni'n frawd a chwaer go-iawn, roedd hi'n hawdd deall be oedd yn mynd drwy feddyliau'r plant yn y stori. Ac ar ben y cyfan, fe gawson ni gyfle i chwarae gêm - a sgorio gôl!!
Nôl i’r brig
Yn rhyfedd iawn, enw un o'r llyfre dwi'n 'i ddarllen yn y gyfres yw SEREN GERAINT, ond nid amdana i ma'r llyfr! Hanes Geraint yn cael ei seren aur gyntaf yn yr ysgol sydd yma, ond pam, tybed? Ma'r ddwy stori arall, sef YR YNYS HUD a DWY DROED CHWITH yn wahanol iawn, ond mae'r ddwy'n sôn am antur go arbennig. Mi fuon ni'n ffilmio un o'r llyfre ym Melin Trefîn yn Sir Benfro, a'r llall yng Nghastell Raglen yng Ngwent. Dau le go wahanol i'w gilydd!
Nôl i’r brig
Fe ges i wahoddiad arbennig i fynd i Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon i ddarllen fy hoff stori i, sef WATSH ANWELEDIG WIL. Stori yw hon am fachgen bach o’r enw Wil sy BOB amser yn gwbod faint o’r gloch yw hi er nad oes ganddo fe watsh. Erbyn y diwedd, mae hyd yn oed yr athrawon yn gofyn i Wil faint o’r gloch yw hi, ac yn credu fod gan Wil watsh anweledig ar ei fraich. Ond un dydd, mae’n anghofio’i watsh...
Nôl i’r brig
O’n i’n arfer darllen tipyn pan o’n i’n fach, ond cofiwch, do’dd dim llawer o lunie lliw yn y llyfre yr amser hynny. Erbyn hyn, ma’r llyfre’n llawn llunie, ac mi ges i amser wrth ‘y modd yn darllen Y DYNION BACH OD – ar y bws, cofiwch – a DYMUNO DYMUNO DAW’N WIR mewn safle picnic braf. Ond fy hoff stori i oedd SYNIAD DA GWENLLI GWYDD, stori fach ddoniol am wydd a’i hadau maip. Cofiwch wylio er mwyn i chi gael cyfarfod â’r Gwenlli go-iawn!
Nôl i’r brig
Bob blwyddyn ma Gwyl y Gaeaf yn dod i Gaerdydd, ac yng nghanol y ffair wrth ymyl yr olwyn fawr, ma ‘na Lawr Sglefrio bendigedig. Dwi’n mynd i sglefrio bob blwyddyn, ond dwi ddim yn dda iawn, cofiwch chi! Am sbel hir, roedd ofn arna’i, yn union fel y gwningen fach sydd yn y stori SIWAN YN MYND I SGLEFRIO, ond ar ôl gweld pa mor ddewr oedd Siwan, dwi’n mentro tipyn mwy erbyn hyn. Fyddwch chi’n cael cyfle i sglefrio weithiau?
Nôl i’r brig
Glanhau'r cwtsh dan stâr - y twll dan grisiau - o'n i pan alwodd y criw heibio i recordio fy hoff stori i. A dyna i chi beth rhyfedd, hanes cwtsh dan stâr sydd yn y llyfr hefyd, sef YR ARTH YN Y CWTSH DAN STÂR. Stori yw hon am fachgen bach sy'n credu bod arth yn byw yn y twll dan grisiau yn ei dy, a'i bod yn cael llawer o hwyl yn crwydro ar hyd y ty yn y nos. Ond un dydd, rhaid i William a'i fam lanhau'r cwtsh dan stâr, a wynebu'r "arth"...
Nôl i’r brig
Wel, wnes i erioed feddwl y byswn i’n mwynhau cael bod yng nghadair y deintydd, ond dyna’n union ddigwyddodd pan ges i gyfle i ddarllen stori am fachgen bach o’r enw Owain, oedd yn reit ofnus o’r deintydd. Enw’r stori ydy OWAIN A DAN DANNEDD, ac mae Owain yn mynd ag un neu ddau o “ffrindiau” bach hefo fo pan mae o’n mynd i weld Dan Dannedd. Yn ffodus iawn, does dim ofn o gwbwl arno wedyn – ond mae Dan Dannedd yn cael tipyn o fraw!
Nôl i’r brig
Wel, dwi’n teimlo’n lwcus iawn yn cael cyfle i ddarllen SEREN Y BALÈ. Dyma i chi lyfr arbennig iawn am ferch fach sy’n mynd i weld perfformiad o’r balè Y Rhiain Gwsg, ac mae’n cael noson i’w chofio am byth. Digwydd cyrraedd yn gynnar ar gyfer y balè wnes i hefyd, a gweld y llyfr yn gorwedd ar gornel y llwyfan, felly gan nad oedd unrhyw un arall wedi cyrraedd, mi wnes i ddarllen y llyfr i gyd! O, mae’r dawnswyr mor bert, a’r gerddoriaeth yn hyfryd. Dwi’n edrych ymlaen at gael mynd i weld balè eto.
Nôl i’r brig
Mynd â Siani Flewog draw i Lanbrynmair wnes i, i chware’r organ yn y Gymanfa Ganu, a dyma gyfle bach i gael paned yn y caffi. Dyna le diddorol, yn llawn modelau pren oedd yn gallu symud a gwneud swn! Fe weles i un model o ddraig fach werdd a llygoden, ac wrth eu hymyl roedd copi o’r llyfr GWICH A DRAIG, sy’n dweud stori llawn hud a lledrith am ddraig fach werdd a llygoden! Mi wnes i fwynhau gymaint, aeth hi’n hwyr iawn arna i’n casglu Siani Flewog o’r Gymanfa. Roedd hi hefyd yn poeri tân erbyn hynny...
Nôl i’r brig
Wel, fel y gallwch chi ddychmygu, dwi wrth fy modd yn darllen, a phan fydd pethe’n dawel yn y Caffi. Mae Jac Do wrth ei fodd yn gwrando ar stori hefyd. Dwi wedi darllen sawl stori dda yn y gyfres yma, ac mi fwynheais i’n fawr gyda’r hwyaid yn GUTO A GWYN AR Y FFERM, ac yn y syrcas yn darllen SLUMYN DWL. Dwi’n gorffen y gyfres gyda darlleniad arbennig o DYNA SYRPREIS! Gobeithio y gwnewch chi eu mwynhau nhw hefyd.
Nôl i’r brig
Wel! Pan ofynnodd pobol DARLLEN ‘DA FI! i fi ddewis fy HOFF lyfr yn y byd i gyd, doedd ond un dewis yn bosib, sef DAWNS MS HAWDDGAR. ‘Chi’n gweld, dwi’n cael gwersi dawnsio preifat gyda Ms Hawddgar a dwi wrth fy MODD yn dawnsio’r waltz. Fe welwch chi fi’n gwneud hynny’n ARBENNIG o dda ar ddechre’r rhaglen. Fyddwch chi’n dawnsio weithie?
Nôl i’r brig
Dwi'n byw ar y blaned Mawrth, ac un diwrnod fe geson ni ymweliad go arbennig gan blant o'r ddaear, sef Bili Boncyrs a'i ffrindiau i gyd. Wel, fe geson ni hwyl yn chwerthin a chware a bwyta jeli, ond yn rhy sydyn o lawer. Ro'dd yr amser wedi mynd, ac ro'dd hi'n bryd i'n hymwelwyr ni fynd nôl i'r Ddaear. O leia ma Bili wedi ysgrifennu'r hanes i gyd yn y llyfr 'ma, BILI BONCYRS A'R PLANEDAU. Gobeithio y do'n nhw nôl eto i chware rhyw ddiwrnod.
Nôl i’r brig