Babannod 0-1 oed: cyn darllen
Nid yw babannod yn deall straeon ond dyma gyfnod pwysig i'ch plentyn ddysgu am lyfrau.
- Arferwch eich plentyn i afael mewn llyfr a throi'r tudalennau.
- Darllenwch lyfr os oes angen cysuro eich plentyn, yn ystod y cyfnod cynnar hwn. Bydd eich plentyn yn ystyried darllen yn brofiad pleserus.
- Mae pob math o lyfrau ar gael er mwyn meithrin datblygiad eich plentyn - llyfrau swn, lluniau, lliw, meddal a pop-up. Wrth ganolbwyntio ar y lluniau mae cyhyrau llygaid plentyn yn cryfhau ac wrth weld geiriau'n cael eu hail-adrodd, bydd eich plentyn yn sicr o'u cofio.
- Darllenwch lyfrau Gair-a-Llun er mwyn dysgu geiriau cyntaf eich plentyn ac arfer y plentyn i weld geiriau a chlywed synau.
- Mae llyfrau syn odli a hwyngerddi yn arbennig o dda i blant ifanc iawn.