Plant 4-5 oed: dysgu darllen
Dyma gyfnod pwysig i fagu hyder eich plentyn wrth ddarllen. Nid dyma'r amser i brofi faint o eiriau mae eich plentyn yn deall. Mwynhewch yr amser rydych chi'n treulio gyda'ch gilydd. Gall teidiau a neiniau a brodyr a chwiorydd hŷn chwarae rôl pwysig hefyd.
- Peidiwch â phoeni os bydd eich plentyn yn dwyn pethau i gof. Dydyn nhw ddim yn twyllo ei hunain - mae hyn yn rhoi boddhad i'r plentyn.
- Cyd-ddarllenwch er mwyn arfer eich plentyn i ddarllen yn uchel. Gydag amser bydd eich plentyn yn ddigon hapus i ddarllen yn uchel o flaen dosbarth.
- Edrychwch ar y lluniau a trafodwch beth sy'n tynnu sylw eich plentyn. Bydd hyn yn helpu i ddeall y stori ac i ddyfalu geiriau newydd. Mae dyfalu'n bwysig pan fydd y plentyn yn deall yr hyn y mae'r stori'n debygol o ddweud ac mae'n dewis geiriau sy'n gwneud synnwyr.
- Symudwch eich bys o dan y geiriau er mwyn i'r plentyn gweld a chlywed geiriau gyda'i gilydd.
- Peidiwch tynnu gormod o sylw os yw eich plentyn yn gwneud camgymeriad. Rhowch ganmoliaeth os ydy'r gair neu frawddeg yn anghywir. Anogwch eich plentyn i feddwl beth allai fod yn ei ddweud. Tynnwch sylw at y swn ar ddechrau gair. Peidiwch â gwylltio - dyma ddechrau'r broses hunan-gywiro.
- Mae'n arfer da chwarae gêmau fel "Gwelaf gyda fy llygaid bach i" er mwyn ymarfer y wyddor a dysgu pa lythrennau sy'n cychwyn geiriau neu "Gweld y Gair" drwy chwilio am eiriau ar labelau neu arwyddion - yn y stryd, siopau neu cypyrddau.
- Ewch i ddewis llyfrau gyda'ch gilydd yn y llyfrgell, gan fod y rhain am ddim. hefyd i ddod â llyfrau adre o'r ysgol.
- Mae rhai plant yn hoffi darllen am gymeriad arbennig. Os mai dyma hoffter eich plentyn, prynwch lyfrau sy'n cynnwys straeon byrion neu llyfrau mewn cyfres. Mae'n dda darllen un bennod bob nos.
- Darllenwch gyda'ch plentyn bob dydd - dewiswch lyfrau sydd o ddidordeb a sy'n uwch na lefel darllen eich plentyn.
- Ysgrifennwch nodiadau mae'n arferiad gwych i'ch plentyn ganolbwyntio ar eiriau.