Plant 6-7 oed: annibyniaeth
Er dylai eich plentyn medru darllen yn annibynnol erbyn y cyfnod hwn, mae'r amser hyn dal yn werthfawr i chi dreulio gyda'ch plentyn.
- Mae'n bwysig i chi barhau darllen gyda'ch gilydd - bob dydd os oedd modd.
- Erbyn yr oedran hyn, mae gan eich plentyn chwaeth personol mewn llyfrau felly mae angen i chi roi'r cyfle i'ch plentyn ddewis pa stori mae ef/hi eisiau ei ddarllen.
- Gwerthuswch y stori yn fanwl gan drafod agweddau penodol o'r stori megis agoriad, diweddglo, arddull a naratif. Trafodwch eich ymateb i'r llyfr gan bwyso a mesur pethau cryf a gwan y stori.
- Darllenwch yn uchel gyda'ch gilydd er mwyn parhau magu hyder eich plentyn i ddarllen yn gyhoeddus. Mae plant ar eu hennill wrth wrando ar bobl eraill yn darllen pan maen nhw'n gallu darllen yn hyderus yn unigol.
- Mae'n beth da amrywio pwnc ac arddull y darn darllen. Yn ogystal â ffuglen, mae deunydd barddoniaeth, erthyglau cylchgrawn a ffeithiol.
- Dylai eich plentyn sylwi a chywiro camgymeriadau ei hun erbyn hyn.
- Yn ddelfrydol, mae angen tawelwch llwyr wrth ddarllen yr oedran hyn er mwyn canolbwyntio'n gyflawn.
- Dywedwch wrth eich gilydd pa fath o lyfrau sydd orau gennych. Mae'n bwysig eich bod chi'n parchu dewis eich gilydd.