Cyflwyniad

Mae'r adran hon yn llawn syniadau i helpu eich plentyn ddarllen a mwynhau llyfrau. Mae'n adran ar gyfer rhieni ac oedolion eraill sy'n barod i dreulio amser i rannu llyfrau a storiau gyda'u plant ifanc

Rydyn ni i gyd yn awyddus i helpu ein plant i ddarllen ond mae'n bosibl nad ydym yn sicr sut i wneud hyn. Mae'n bosibl y byddwn ni'n meddwl mai'r athrawon yw'r bobl orau i helpu plentyn i ddarllen ac na ddylai rhieni ymyrryd. Ond gall rhieni roi hoffter at ddarllen i blentyn ymhell cyn iddo/iddi fynd i'r ysgol a dyfnhau'r hoffter hwnnw wrth i'r plentyn dyfu i fyny.

  • Mwynhau llyfrau yw'r ffactor pwysicaf wrth ddysgu darllen.
  • Mae rhannu llyfrau gydag oedolion yn helpu plant i ddysgu darllen.

I rai plant, bydd dysgu darllen yn digwydd yn hawdd ac yn sydyn. I eraill, bydd angen mwy o amser a chefnogaeth. Pa un bynnag, bydd eich help yn ddylanwad cryf ar ddatblygiad eich plentyn fel darllenydd. Canmoliaeth, anogaeth, sicrwydd a phleser yw'r ffactorau pwysig i bobplentyn wrth iddyn nhw ddatblygu'n ddarllenwyr hyderus.

Mae'r wybodaeth yn yr adran hon wedi eu addasu gyda chaniatad llyfryn 'Darllena gyda fi' gan Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol.