Manylion Allweddol

Dangoswch i blant fod darllen yn rhan o fywyd bob dydd.

Byddwch yn esiampl da drwy ddarllen papurau newydd, cylchgronnau a nofelau eich hun. Cofiwch fod plant yn mwynhau copio oedolion!

Anogwch eich plentyn drwy rhoi digon o gefnogaeth a chanmoliaeth.

Canolbwyntiwch ar y pethau cywir yn hytrach na beirniadu agweddau gwan. Os yw'r stori yn rhy anodd rhowch darn yn haws i'ch plentyn.

Rywbryd, rywle!

Nid dim ond cyn cysgu mae plant yn hoffi darllen - darllenwch yn y bath, yn y parc neu ar y bws. Darllenwch lyfrau mae eich plentyn eisiau eu darllen. Cofiwch i beidio gorfodi eich plentyn i ddarllen a gorffenwch pan mae'r plentyn eisiau gorffen.

Lluniau yn bwysig mewn stori.

Mae lluniau'n llawn diddordeb i blant ac maen nhw'n rhoi syniad beth sy'n digwydd yn y stori. Anogwch eich plentyn i edrych yn ofalus ar y lluniau a trafodwch beth yw argraff eich plentyn o'r stori.

Eisteddwch gyda'ch gilydd lle mae pawb yn gyfforddus.

Mae amser darllen yn gyfle gwerthfawr i chi glosio at eich plentyn felly gwnewch yn siwr fod pawb yn fodlon ac yn barod i ddarllen.

Nid dim ond llyfrau gellir eu darllen!

Mae pob math o ddeunydd ar gael ymhobman - arwyddion, bwydlen, rhestr siopa and hysbysebion