Cwestiynau ac atebion

Pam ddylwn i ddarllen gyda fy mhlentyn adref? Gwaith athrawon yw darllen gyda fy mhlentyn yn yr ysgol!

Mae nifer fawr o fanteision i chi ddarllen gyda'ch plentyn. Nid yn yr ysgol yn unig mae plant yn dysgu ac mae rhieni yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad eu plant. Gwerthfawrogwch yr amser arbennig hwn yng nghwmni eich plentyn.

Nôl

Pryd dylai fy mhlentyn ddechrau dysgu darllen?

Mae nifer fawr o fanteision i chi ddarllen gyda'ch plentyn. Nid yn yr ysgol yn unig mae plant yn dysgu ac mae rhieni yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad eu plant. Gwerthfawrogwch yr amser arbennig hwn yng nghwmni eich plentyn.

Nôl

Dydi babannod methu darllen!

Mae ymchwil yn profi fod plant sy'n gyfarwydd â iaith cyn dechrau'r ysgol yn llwyddo yn well yn ei gwaith ysgol. Drwy ddarllen a chyfathrebu gyda babannod maen nhw'n arfer â gweld geiriau a chlywed synau...

Nôl

Beth os byddan nhw'n gofyn am yr un llyfr dro ar ôl tro?

Gadewch iddyn nhw ei gael. Mae plant yn mwynhau hoff storiau. Drwy ail ddarllen, maen nhw'n dysgu patrymau iaith ysgrifenedig a bod darllen yn brofiad pleserus. Gwnewch yn siwr eich bod hefyd yn cyflwyno storiau newydd i roi blas am rywbeth gwahanol iddyn nhw.

Nôl

Beth am y wyddor?

Anogwch eich plentyn i ddysgu enwau llythrennau a synau llythrennau. Mae plant angen bod yn gyfarwydd â llythrennau i adnabod eu siâp a'u trafod wrth eu henwau. Mae cyfresluniau o'r wyddor a llythrennau plastig yn helpu plant i ddysgu enwau llythrennau. Mae gêmau fel 'Gwelaf â'm llygad bach i' neu frawddegau gwirion, gêmau a chaneuon odli'n helpu plant i glywed synau llythrennau neu batrymau geiriau.

Nôl

Os nid darllen llyfrau, beth?

Does dim angen darllen llyfr gyda'ch plentyn bob tro. Beth am gyflwyno ffynonellau eraill i ddarllen megis papurau newydd, arwyddion yn y cartref neu ar y ffordd neu llyfr ryseitiau.

Nôl

A ddylwn i guddio'r lluniau?

Na, mae lluniau'n llawn diddordeb i blant ac maen nhw'n rhoi syniad beth sy'n digwydd yn y stori. Anogwch eich plentyn i edrych yn ofalus ar y lluniau a trafodwch beth yw argraff eich plentyn o'r stori.

Nôl

Beth os yw fy mhlentyn yn gwneud camgymeriad?

Y peth pwysig wrth ddarllen yw bod yr ystyr yn glir. Os bydd y 'camgymeriad' yn gwneud synnwyr, gadewch i'ch plentyn gario ymlaen i ddarllen. Dylid dim ond tynnu sylw i gamgymeriadau nad sy'n gwneud synnwyr! Mae plant hyn yn medru sylwi ar gamgymeriadau ac yn cywiro ei hunain.

Nôl

Beth ddylwn i ei wneud os na fydd fy mhlentyn yn adnabod gair?

Yn y cyfnod cynnar, dywedwch y gair i gadw ystyr y stori neu dywedwch y swn cyntaf i weld a fydd eich plentyn yn gallu rhagweld beth yw'r gair. Peidiwch â gofyn i'ch plentyn swnio gair anadnabyddus. Nid yw hyn fel arfer yn gweithio yn arbennig gyda geiriau cyffredin, bach fel 'y', 'hwn', 'chi'. Os byddwch chi'n amheus, cofiwch ddweud y gair wrth eich plentyn.

Nôl

Pa mor aml ddylai fy mhlentyn ddarllen i mi?

Anogwch eich plentyn i ddarllen i chi ddwy neu dair gwaith yr wythnos ar adeg sy'n gyfleus i chi'ch dau. Mae'n bosibl y byddan nhw hefyd am ddarllen i frawd neu chwaer iau neu i nain a thaid. Os bydd eich plentyn yn dechrau blino, cofiwch orffen y stori a'i thrafod wedyn.

Nôl

Sut alla i helpu pan fydd fy mhlentyn am ddarllen yn dawel?

Os bydd eich plant eisiau darllen yn dawel, yn arbennig wrth iddyn nhw ddarllen storiau hwy, siaradwch am eu barn ar y stori neu arddull yr awdur/arlunydd. Daliwch i ddangos bod gennych ddiddordeb yn eu dewis ond parchwch eu hannibyniaeth gynyddol fel darllenwyr. Mae'n bwysig, fodd bynnag, parhau i ddarllen yn uchel i'ch plant ar ba gam bynnag maen nhw yn eu datblygiad darllen.

Nôl

Pam dylai fy mhlentyn siarad a darllen Cymraeg os nad yw i'n medru?

Mae sawl maintais i fod yn ddwyieithog. Dengys ymchwil fod plant sy'n deall dwy iaith yn fwy creadigol ac yn meddwl yn fwy hyblyg. Mae diwylliant ynglwm â'r iaith Mae person dwyieithog yn gallu cyfathrebu ag amrywiaeth ehangach o bobl na pherson sydd ond yn gallu siarad un iaith.

Nôl

Ydy plant yn drysu rhwng Cymraeg a Saesneg?

Mae'n naturiol i blant bach gymysgu'r ddwy iaith. Y peth gorau yw i'ch plentyn fynychu dosbarth meithrin cyfrwng Cymraeg er mwyn gallu gwahaniaethu rhwng y ddwy iaith erbyn dechrau ysgol gynradd.

Nôl