Rhaglen 1
Ar 18 Medi 1997, pleidleisiodd Cymru o blaid datganoli trwy fwyafrif o 6,721 yn unig, sef 0.3% o'r etholaeth. Ond er mai mwyafrif trwch blewyn ddywedodd ‘Ie dros Gymru’, roedd y canlyniad yn cynrychioli newid byd ers Refferendwm 1979. Yr adeg honno roedd mwyafrif llethol ym mhob rhan o Gymru wedi gwrthwynebu datganoli. Beth ddigwyddodd rhwng 1979 a 1997 i droi'r llanw?
Myth yw’r gred gyffredin fod pobl Cymru wedi dod i deimlo’n fwy Cymreig rhwng y ddau refferendwm; fod hunaniaeth genedlaethol Gymreig wedi cryfhau. Y ffaith amdani yw bod y canran o bobl Cymru a oedd yn teimlo'n Gymreig wedi aros yr un fath rhwng '79 a '97. Yr hyn a newidiodd oedd ystyr Cymreictod. Mwy a mwy o bobl yn dod i gredu fod hunaniaeth Gymreig a chefnogi datganoli yn cerdded law yn llaw - mai dyna oedd yn naturiol. A’r person oedd yn bennaf gyfrifol am hynny oedd Margaret Thatcher.
Daeth Thatcher i rym prin ddeufis wedi Refferendwm '79 ac erbyn i’w phlaid golli grym ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach roedd Cymru wedi newid. Roedd sylfaen economaidd yr hen economi ddiwydiannol Gymreig – y diwydiannau glo a dur, yn arbennig – wedi ei chwalu am byth. Roedd gwleidyddiaeth Cymru wedi newid hefyd. Wrth i gyfres o Ysgrifenyddion Gwladol Ceidwadol reoli Cymru, a hynny er nad oedd gan rai ohonynt unrhyw gysylltiad na diddordeb yn y wlad, daeth nifer o aelodau cenhedlaeth newydd o Aelodau Seneddol Llafur i gredu fod dyfodol Cymru’n dibynnu ar gael datganoli. Ron Davies oedd y galluocaf ohonynt, a chyda chefnogaeth yr arweinydd Llafur John Smith, y fo roddodd Cymru ar ben y ffordd tuag at noson dyngedfennol 18 Medi 1997.
Wrth gwrs, bu datganolwyr Cymru yn ffodus eithriadol o gael manteisio ar wyntoedd teg y teimlad o obaith ac optimistiaeth a grëwyd gan fuddugoliaeth ysgubol Tony Blair yn etholiad cyffredinol 1997. Yn ddiau hefyd rhoddwyd hwb i’r bleidlais Ie gan y ffaith fod refferendwm 1997 wedi ei chynnal wythnos yn unig ar ôl i bobl yr Alban gefnogi datganoli o fwyafrif mawr iawn. Serch hynny, yn eu gwahanol ffyrdd, bu rôl Margaret Thatcher a Ron Davies yn gwbl allweddol.
Er cymaint y newid rhwng '79 a '97, dal i newid a wnaeth pethau ers hynny. Yn ogystal ag egluro’r newid rhwng y ddau refferendwm bydd Dr Richard Wyn Jones yn olrhain y newid a welwyd yn y farn gyhoeddus yng Nghymru yn negawd cyntaf datganoli: degawd pan welwyd mwyafrif trwch blewyn yn troi’n gefnogaeth eang a chyffredinol i egwyddor datganoli. Degawd hefyd pan welwyd carfan gynyddol o bobl Cymru’n cefnogi troi’r Cynulliad yn senedd go-iawn ar batrwm senedd yr Alban.



