Neidio at y cynnwys

S4C

Rhaglen 2

Os mai’r newid yn y farn gyhoeddus fu un stori fawr yn ystod y degawd diwethaf, yna’n ddiau'r stori fawr arall fu methiant y model o ddatganoli a grëwyd yn sgil refferendwm 1997. Profodd y model hwnnw – y model a ymgorfforwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998 – yn gwbl annigonol. O’r herwydd, fyth ers i Alun Michael ymddiswyddo fel Prif Ysgrifennydd y Cynulliad ym mis Chwefror 2000, gwelwyd proses o newid parhaus yn y fframwaith cyfansoddiadol ar gyfer llywodraethu Cymru. Ac yn 2006 gwelwyd ail Ddeddf Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y llyfr statud, hynny dim ond wyth mlynedd ar ôl pasio’r cyntaf.

Un o broblemau sylfaenol y model o ddatganoli yng Nghymru yw ei chymhlethdod. Mae’r gymhariaeth â’r Alban yn ddadlennol. Yno, mae’r gyfundrefn yn ddigon syml. Tra bod Llywodraeth San Steffan wedi cadw’r hawl i reoli meysydd amddiffyn, polisi tramor, nawdd cymdeithasol a pholisi ‘macro-economaidd’, mae popeth arall wedi ei drosglwyddo i Senedd yr Alban. Felly, os ydy Llywodraeth yr Alban yn penderfynu fod angen polisi newydd ym maes addysg, er enghraifft, mae’n cyflwyno deddfwriaeth o flaen y Senedd, ac os oes mwyafrif yn ei gefnogi, yna fe ddaw’n ddeddf. Oni bai fod y ddeddfwriaeth yn groes i ddeddfau hawliau dynol, neu gytundebau rhyngwladol, neu’n tarfu ar y meysydd polisi hynny sy’n perthyn i Lundain, does dim y gall San Steffan ei wneud i’w stopio.

Yng Nghymru, mae’r sefyllfa yn wahanol iawn gyda phwerau’r Cynulliad yn amrywio’n fawr o faes i faes gyda’r union bwerau hynny’n dibynnu ar union eiriad miloedd o gymalau mewn cannoedd o ddeddfau a basiwyd gan San Steffan. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ddeddfau a basiwyd heb feddwl erioed y byddai na’r fath beth â Chynulliad Cenedlaethol Cymreig yn gweithredu ar eu sail. O’r herwydd mae hyd yn oed gwleidyddion a gweision sifil – heb sôn am yr etholwyr – yn ei chael hi’n anodd gwybod beth yn union yw pwerau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Problem arall yw fod Caerdydd fyth a hefyd yn ddibynol ar ewyllys da llywodraeth San Steffan, llywodraeth sydd, yn naturiol ddigon, yn ei rhoi ei blaenoriaethau ei hunan yn gyntaf.

Ond pam fod cynllun mor gymhleth ac annigonol wedi ei fabwysiadu yn y lle cyntaf? Yn y rhaglen hon, cawn weld sut y gellir olrhain cynnwys Deddf 1998 yn ôl at ddiwedd y '60au, ac at ddylanwad gŵr na cheisiodd erioed gelu ei wrthwynebiad i ddatganoli – George Thomas. Dylanwad a sgiliau gwleidyddol George Thomas oedd yn gyfrifol am sicrhau fod y ffurf yma o ddatganoli wedi dod yn bolisi swyddogol plaid wleidyddol bwysicaf Cymru, y Blaid Lafur. Yn gyfansoddiadol, o leiaf, fo oedd pensaer datganoli!

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales