Rhaglen 3
Mae deng mlynedd ers i Gymru bleidleisio o blaid datganoli ac wyth mlynedd ers i’r Cynulliad gychwyn ar ei waith. Bellach rydym yn tueddu i gymryd datganoli’n ganiataol ac mae’n anodd cofio faint yn union sydd wedi newid mewn cyfnod cymharol fyr. Ond y gwir amdani yw bod Cymru’n wlad wahanol iawn i’r hyn oedd hi ddegawd yn ôl – a hynny i raddau helaeth oherwydd dylanwad datganoli.
Un enghraifft drawiadol o’r newid mawr yma yw’r effaith a gafodd datganoli ar ein pleidiau gwleidyddol. Yn dilyn perfformiad rhyfeddol Plaid Cymru yn yr etholiad cyntaf i’r Cynulliad yn 1999, disgrifiwyd y canlyniad honno fel ‘daeargryn tawel’ gan Dafydd Wigley, Llywydd y Blaid ar y pryd. Teimlwyd sgil effeithiau'r daeargryn gan bob un o’r pleidiau eraill wrth iddynt frwydro i gyflwyno eu hunain mewn golau mwy Cymreig. Roedd ail-lansio’r Blaid Lafur Gymreig yn y flwyddyn 2000 yn enghraifft gynnar a thrawiadol o’r duedd newydd yma. Ond ystyriwch hefyd y ffordd y mae datganoli wedi caniatáu i Blaid Cymru ei hun symud o’r cyrion i ganol y llwyfan gwleidyddol. Yn sgil etholiad 2007, mae’r blaid honno bellach yn rhan o lywodraeth genedlaethol am y tro cyntaf yn ei hanes.
Yn y rhaglen olaf, mae Dr Richard Wyn Jones yn pwyso a mesur cyfraniad datganoli i fywyd y genedl, ag hynny yn ei ffordd ddi-flewyn-ar-dafod nodweddiadol. Trafodir llwyddiannau a methiannau, cryfderau a gwendidau, a hynny ym meysydd addysg, yr economi, yr iaith Gymraeg, iechyd a thrafnidiaeth. Fel academydd uchel ei barch yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac fel Cyfarwyddwr ar Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, mae ei farn yn seiliedig ar wybodaeth eang o'r maes.
O gofio pa mor ansicr oedd y seiliau a osodwyd gan fwyafrif asgell gwybedyn 1997 a ffaeleddau sylfaenol Deddf Llywodraeth Cymru 1998, mae’n dadlau fod 'na lawer iawn wedi ei gyflawni ym Mae Caerdydd. Ond nid da lle gellir gwell, yn enwedig o gofio’r problemau dyrys sy’n ein hwynebu o hyd. Gan droi tua’r dyfodol, mae Richard yn gofyn beth wnawn ni nawr o'r cyfle unigryw yma i dorri cwys newydd yn hanes Cymru?



