Bethan Elfyn
Mae Bethan wedi bod yn gyflwynwraig ar BBC Radio One yng Nghymru ers saith mlynedd bellach ac yn cynhyrchu nifer o raglenni dogfen i’r orsaf ar bob math o bynciau cerddorol, o hip hop i ganu gwerin.
Mae Bethan yn teithio dipyn fel DJ mewn nifer o wyliau cerddorol o Ibiza, i Latitiude yn Suffolk, i’r Carling Reading Festival, ac yng Nghymru gwyliau fel y Greenman a Wakestock. Mae hi hefyd yn cyflwyno sioe fyw o’r enw 'In Concert' ar BBC Radio Wales ac yn un o banelwyr y rhaglen Waw Ffactor ar S4C.
Wrth sôn am ei gwaith gyda Dechrau Canu, Dechrau Canmol dywedodd Bethan:
"Mae ffydd a Christnogaeth yn rhan bwysig o 'mywyd a dwi'n falch o’r cyfle i ddarganfod mwy am y traddodiad. Mi fydd yn her ac yn brofiad newydd imi yn fy mywyd proffesiynol i gyfuno fy ffydd bersonol gyda gwaith 'cyflwyno' ar y gyfres."