22/02/12
Y Grawys
Y Grawys yw'r cyfnod o ddeugain diwrnod cyn y Pasg yn y calendr Cristnogol, yn draddodiadol yn gyfnod o ympryd a myfyrdod.
Y Calendr Cristnogol
Dyma’r prif wyliau Cristnogol dros y flwyddyn nesaf.
Defnyddir dyddiadur y Gorllewin i ddynodi pob dyddiad.
Mis Chwefror
Mis Mawrth
01/03/12
Gŵyl Ddewi
Dewi Sant yw nawdd sant Cymru.
Mis Ebrill
01/04/12
Sul y Blodau
Chweched Sul y Grawys. Mae'n nodi mynediad Iesu i Jerwsalem ar gychwyn Wythnos y Pasg.
06/04/12
Dydd Gwener y Groglith
Gwener y Groglith yw'r dydd Gwener cyn y Pasg. Mae'n cofnodi marwolaeth Iesu drwy groeshoelio.
08/04/12
Sul y Pasg
Mae Cristnogion yn dathlu Atgyfodiad Iesu Grist. Yr ŵyl Gristnogol bwysicaf.
Mis Mai
17/05/12
Dydd Iau (Difiau) Dyrchafael
Mae'r Dyrchafael yn dathlu esgyniad Iesu i'r nefoedd ar ôl ei atgyfodiad ar Sul y Pasg.
27/05/12
Y Sulgwyn
Y seithfed Sul ar ôl y Pasg, yn cofnodi tywalltiad yr Ysbryd Glin dros y disgyblion, dydd genedigaeth yr Eglwys Gristnogol.
Mis Tachwedd
11/11/12
Sul y Cofio
Mae Sul y Cofio yn dwyn i gof aberth aelodau o'r lluoedd arfog a phobl gyffredin mewn rhyfeloedd, yn benodol ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mis Rhagfyr
02/12/12
Grawys y Gaeaf
Diwrnod cynta'r flwyddyn eglwysig ar y Sul agosaf at Tachwedd 30. Adfent yw'r tymor cyn y Nadolig.
24/12/12
Noswyl Nadolig
Y diwrnod cyn y Nadolig.
25/12/12
Y Nadolig
Y Nadolig ydi'r diwrnod sy'n dathlu genedigaeth Iesu yn fab Duw. Mae genedigaeth Iesu yn cael ei ddisgrifio yn Nhestament Newydd y Beibl.
Mis Ionawr
06/01/13
Gŵyl Ystwyll
Gŵyl sy'n dathlu ymweliad y gwŷr doeth i'r baban Iesu. Yn y dwyrain, ble tarddodd yr ŵyl, mae Gŵyl Ystwyll yn dathlu bedyddio Iesu yn yr Iorddonen gan Ioan Fedyddiwr.
Mae rhai canghennau o’r Eglwys Gristnogol hefyd yn dathlu Dyddiau Seintiau sy’n digwydd ar ddyddiau penodol bob blwyddyn.
Dewis emyn
Deg Emyn Poblogaidd i'w Gwylio
Cyfle i chi wrando ar eich hoff emyn. Mae deg o emynau mwyaf poblogaidd Cymru ar gael yma. I wylio ac i wrando, cliciwch ar emyn o’ch dewis.
Beth sy’n Digwydd yn Fuan?
- 02/07/13
Cymanfa i ddathlu bywyd a gwaith Joseph Parry. Cynhelir ar yr 2il o Orffennaf am 7 o'r gloch yn Theatr Soar, Merthyr Tudful. Am wybodaeth ffoniwch 02920 838144 - 30/06/13
Cymanfa gyhoeddi yr Eisteddfod Genedlaethol yng nghapel Bethany, Rhydaman ar y 30ain o Fehefin. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 02920 838144
Dewch i Gyd-Ganu Gyda Ni
Hoffech chi gymryd rhan mewn un o raglenni Dechrau Canu Dechrau Canmol?
Beth ydych chi'n feddwl?
Dywedwch wrthym beth ydych chi’n ei feddwl o Dechrau Canu Dechrau Canmol:
