Emyn I Gymru 2012
Pantyfedwen sydd wedi cipio teitl Emyn i Gymru 2012, yn dilyn pleidleisio brwd gan wylwyr Dechrau Canu Dechrau Canmol.
Fe gychwynodd y broses o ddewis Emyn I Gymru ddechrau'r flwyddyn, pan wnaeth panel o arbenigwyr gwrdd i ddewis y rhestr fer. Ar y panel roedd yna nifer o arweinwyr cymanfaoedd - Margaret Daniel o Aberporth, Davida Lewis o Abertawe, Allan Fewster o Langennech ac Alun Guy o Gaerdydd. Yn cadeirio'r panel roedd cadeirydd Ty Cerdd, Rob Nicholls. Ar ol i restr fer o ugain o emynau gael ei dewis, gwaith y cyhoedd oedd dewis yr enillydd.
Roedd yr ymateb yn wych i'r gystadleuaeth, a braf oedd cael gweld nifer fawr o bleidleisiau'n cael eu cofnodi trwy wefan Dechrau Canu Dechrau Canmol.
Fe recordiwyd y gymanfa i ddatgelu'r deuddeg emyn fwyaf poblogaidd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 2 Mawrth, gyda corau a grwpiau o bob rhan o Gymru yn ymuno yn y gynulleidfa i ganu. Arweinydd y noson oedd cyflwynydd y gyfres, Alwyn Humphreys, ac fe gafwyd cyfeiliant ardderchog gan Cerddorfa Sesiwn Cymru a Jeffrey Howard.
Pantyfedwen oedd yr emyn a ddaeth i'r brig, ond roedd y deuddeg emyn terfynol yn rhestr deilwng iawn.
Y deuddeg emyn mwyaf poblogaidd yn ol gwylwyr Dechrau Canu Dechrau Canmol oedd -
- 12 Rachie / I bob un sy'n ffyddlon
- 11 Builth / Rhagluniaeth fawr y nef
- 10 Blaenwern / Tyred Iesu i'r anialwch
- 9 Berwyn / Tyrd atom ni o Grewr pob goleuni
- 8 Ebeneser / Dyma gariad fel y moroedd
- 7 Cwm Rhondda / Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
- 6 Bryn Myrddin / Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb
- 5 Gwahoddiad / Mi glywaf dyner lais
- 4 Rhys / Rho im yr hedd
- 3 Bro Aber / O tyred im gwaredu Iesu da
- 2 Arwelfa / Arglwydd gad im dawel orffwys
- 1 Pantyfedwen / Tydi a wnaeth y wyrth o Grist Fab Duw
Beth ydych chi'n feddwl?
Dywedwch wrthym beth ydych chi’n ei feddwl o Dechrau Canu Dechrau Canmol:
Beth sy’n Digwydd yn Fuan?
- 02/07/13
Cymanfa i ddathlu bywyd a gwaith Joseph Parry. Cynhelir ar yr 2il o Orffennaf am 7 o'r gloch yn Theatr Soar, Merthyr Tudful. Am wybodaeth ffoniwch 02920 838144 - 30/06/13
Cymanfa gyhoeddi yr Eisteddfod Genedlaethol yng nghapel Bethany, Rhydaman ar y 30ain o Fehefin. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 02920 838144
Dewch i Gyd-Ganu Gyda Ni
Hoffech chi gymryd rhan mewn un o raglenni Dechrau Canu Dechrau Canmol?
