Hoff Emyn Pantycelyn
Canlyniad Cystadleuaeth Pantycelyn
Emyn fuddugol cystadleuaeth Pantycelyn 2008 yw'r clasur Mi dafla 'maich oddi ar fy nghwar.
Fe’i canwyd ar Dechrau Canu Dechrau Canmol nos Sul 9 Mawrth i’r emyn-dôn Tŷ Ddewi. Dywedodd John Morris Jones mai dyma un o delynegion perffeithiaf ein cenedl ac mae'n sôn am euogrwydd y Groes a'r Iesu hollol anghymarol gyda’r leitmotif, "does debyg iddo fe". Yn ôl yr Athro Derec Llwyd Morgan, mae ynddi'r ofnadwy hefyd yn y geiriau anfarwol, "fe sugna f’enaid innau’n lân".
| Emyn | Tôn |
|---|---|
| Iesu Difyrwch | Grafenberg |
| O Nefol Addfwyn Oen | Rhosymedre |
| Ennynaist ynof dân | Y Faenol |
| O Tyred Iôr | Whitford |
| Iesu, Iesu rwyt ti’n ddigon | Llwynbedw |
| O Llefara addfwyn Iesu | Hyfrydol |
| Mi dafla maich | Ty Ddewi |
| Yn Eden cofiaf hynny byth | Buddugoliaeth |
| Pererin Wyf | Amazing Grace |
| Dal fi fy Nuw | Arizona |
| Cudd fy meiau | Tyddyn Llwyn |
| Tyred Iesu i’r anialwch | Blaenwern |