Neidio at y cynnwys

S4C
Dechrau Canu Dechrau Canmol

Gwion Hallam

Yn ogystal â chyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol, mae Gwion Hallam yn gweithio fel awdur ar ei liwt ei hun. Cafodd ei fagu yn Rhydaman, ond bellach mae e a’i deulu yn byw yn y Felinheli.

Dros y blynyddoedd, mae e wedi gweithio mewn sawl maes, gan fod yn athro, yn weithiwr ieuenctid ac yn gyflwynydd teledu – fe oedd yn cyflwyno’r gyfres gelfyddydol Croma ar S4C.

Mae e wedi sgriptio ar gyfer teledu a radio, ac mae e wedi cyhoeddi dwy gyfrol o gerddi i blant. Yn 2005 cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Creadyn, a enillodd Wobr Tir Na Nog yn 2006.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales