Neidio at y cynnwys

S4C
Dechrau Canu Dechrau Canmol

Hywel Gwynfryn

Mae gyrfa ddarlledu Hywel Gwynfryn fel darlledwr yn pontio cyfnod sydd bron yn cyfateb i ddyddiad darlledu pennod gyntaf Dechrau Canu Dechrau Canmol nôl yn 1961. Dechreuodd fel cyflwynydd teledu ar raglen y BBC - Heddiw - yn 1964 ac ers hynny mae wedi bod yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar y teledu a’r radio. Heddiw mae’n un hanner o’r ddeuawd boblogaidd Hywel a Nia ar raglen ddyddiol Radio Cymru. Her newydd i Hywel ydi cyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol.

"Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i fod yn rhan o’r tîm. Fe fydda i yn gwneud y math o gyfweliadau dwi’n fwynhau eu gwneud sef siarad a thrafod bywydau pobl. O’m profiad i mae pobl yn barod i agor eu calonnau a sôn am eu profiadau a’r ffordd y maen nhw wedi llwyddo i oroesi. I rai pobl sy’n gwylio neu yn gwrando ac yn mynd trwy’r twnnel, efallai bod hyn yn gysur mawr iddynt ac yn help i weld rhywfaint o oleuni y tu hwnt," meddai.

Cafodd ei fagu yn Llangefni, ble bu’n mynychu Capel Smyrna. Yno roeddan ni’r plant yn cael ein hannog i sefyll yn y Sêt Fawr i ddweud adnodau a chymryd rhan yn y gwasanaethau drwy ddarllen o’r Beibl a dweud gweddi. Roedd sefyll o flaen cynulleidfa fel hyn yn magu hyder a meithrin sgiliau cyfathrebu rhywun. Erbyn hyn mae Hywel, sy’n dad i saith o blant, wedi hen ymgartrefu yn y Brifddinas ac yn mynychu Capel Minny Street yng Nghaerdydd.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales