Neidio at y cynnwys

S4C
Dechrau Canu Dechrau Canmol

Luned Emyr

Astudiodd Luned Theatr, Ffilm a Theledu yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, cyn mynd yn ei blaen i astudio Ffilm yn Nenmarc yn y Coleg Ffilm Ewropeaidd. Ysgrifenna ar gyfer gwahanol gyfryngau, gan gynnwys y llwyfan, y radio a'r teledu, a gwelir ei gwaith llenyddol yn gyson ar ddalennau Tu Chwith, Taliesin a Barn.

Yn ogystal, mae Luned yn gweithio ym maes cyflwyno a chynhyrchu rhaglenni teledu, ac mae'n mwynhau ffotograffiaeth yn fawr. Mae hi'n edrych ymlaen yn awr at ymuno â thîm cyflwyno Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Mae hi'n mynychu eglwys Highfields yng Nghaerdydd.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales