Neidio at y cynnwys

S4C
Dechrau Canu Dechrau Canmol

Luned Tonderai

Cafodd Luned ei magu yn yr Hendy, ger Llanelli. A hithau'n un o bump o blant, treuliodd y teulu amser yn America, Canada ac yn Yr Ariannin. Gwnaeth y cyfnodau hyn, yn enwedig cyfnod mewn ysgol yng Nghanada ddylanwadu ar ei hagwedd tuag at fywyd.

Gwnaeth teithio fel plentyn greu'r awydd ynof i gwrdd â phobl sy'n wahanol i mi ac i brofi pethau newydd a gwneud yr annisgwyl.

Yn dilyn ei lefel A yn Ysgol Gyfun Y Strade, Llanelli aeth Luned ar ei hunion i Lundain er mwyn astudio Drama ym Mhrifysgol Goldsmiths. Cychwynodd ar yrfa yn y cyfryngau ar ôl dychwelyd i Gymru a chyda dyfodiad teledu digidol, dechreuodd gyflwyno rhaglenni ieuenctid ar S4C. Ers hynny mae wedi bod yn cynhrychu ac yn cyfarwyddo rhaglenni sy'n amrywio o gyfresi plant i raglenni dogfen a chyfresi teuluol. Mae ei gwaith diweddaraf yn cynnwys rhaglen ddogfen ar fabanod sy'n cael eu geni cyn eu hamser, 'Babis Bach Sian'. Mae Luned, ei gŵr a'u plant, Lili a Reuben, yn mynychu capel 'Highfields' yng Nghaerdydd ers pedair blynedd.

Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn wahanol iawn i unrhyw beth arall y mae Luned wedi ymgymryd ag ef yn ystod ei gyrfa.

"Wrth gwrs, dwi'n gobeithio y gwnaiff bobl fwynhau'r gyfres, ond yn bwysicach byth dwi'n gobeithio y gwnaiff ddangos nad oes rhaid bod yn fath arbennig o berson er mwyn cael ffydd â mae ffydd yn rhywbeth sydd o fewn cyrraedd i bob un ohonom."

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales