Neidio at y cynnwys

S4C
Dechrau Canu Dechrau Canmol

Martyn Geraint

Un o’r cyflwynwyr fydd yn ymddangos fwyaf yn nwy raglen gyntaf y gyfres newydd yw Martyn Geraint, sydd ar dân i ddenu cynulleidfa ifanc i’r gyfres.

Mae Martyn yn llawn afiaith wrth wynebu'r her o gyflwyno Dechrau Canu, Dechrau Canmol, a dyma’r math o ysbryd brwdfrydig yr hoffai gynnig i un o gyfresi teledu mwyaf hirhoedlog gwledydd Prydain a hithau’n dathlu ei phen-blwydd yn 45 eleni.

Un o dadau ifanc Pontypridd yw’r cyflwynydd sydd â’i wreiddiau yng Ngwdig, sir Benfro, lle'r oedd ei dad-cu, y Parch John Watts-Williams, yn weinidog. Mae’n athro Ysgol Sul ac yn arweinydd cerddorol Capel y Bedyddwyr, Coedpenmaen, Pontypridd.

"O safbwynt addoli, dwi ddim yn berson traddodiadol ac er bod ein traddodiad canu emynau yng Nghymru yn wych, a thra bod ishe inni barhau i’w gynnal, mae angen cyfleu’r neges Gristionogol mewn ffyrdd newydd hefyd. Mae’n rhaid rhoi llwyfan i bobl ifanc fynegi eu ffydd - dwi wastad yn cofio cyngor yr Apostol Paul i’r Timotheus ifanc iddo fod yn esiampl i’r hen bobl. Hoffwn weld fideos pop a chaneuon hip hop ar y rhaglenni. Mae ishe rhoi llwyfan i bobl ifanc sydd am gyfansoddi caneuon Cristionogol ac emynau Cymraeg."

Mae Martyn yn ffyddiog y gall pob cenhedlaeth o wylwyr fwynhau a meddwl yn ddwys am gynnwys y gyfres newydd o Dechrau Canu Dechrau Canmol.

"Dwi ishe gweld yr egni ifanc yn cyrraedd yr holl gynulleidfa a’r gyfres yn gwneud i bawb feddwl yn ddwys am bethau ysbrydol a’r annhegwch sydd yn y byd."

"Rwy’n credu y dylai mynd i addoli fod yn achlysur i’w fwynhau. Mae yna le i fod yn llawen yn yr Arglwydd ond rydyn ni’r Cymry yn cael ein gweld fel cenedl sydd yn eitha trist a difrifol wrth fynd i addoli. Dwi’n gobeithio helpu i roi mwy o wen i’r addoli trwy Dechrau Canu Dechrau Canmol."

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales