
Alwyn Humphreys
Ganed Alwyn Humphreys ym Modffordd, Ynys Môn, ac mae’n teimlo’n hynod falch o fod wedi cael ei fagu mewn cymdeithas bentrefol ddiwylliedig lle’r oedd gweithgareddau Capel y Gad yn allweddol.
Ar ôl graddio gydag anrhydedd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Hull a Trinity College Llundain bu’n ddarlithydd cerdd yn Lerpwl cyn ymuno â’r BBC fel cynhyrchydd. Trodd yn raddol (ac yn ddamweiniol) tuag at gyflwyno ar y radio a’r teledu, gan gynnwys cyfresi fel Cywair, Canwn Moliannwn, Heno a P’nawn Da, ynghyd â rhaglenni o’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd, Llangollen a’r Ŵyl Gerdd Dant.
Bu’n arweinydd Côr Orpheus Treforys am chwarter canrif gan deithio’r byd yn rhoi canu corawl Cymru ar y map. Ymddangosodd ar lwyfannau cyngerdd enwog fel Tŷ Opera Sydney a Carnegie Hall, ac enillodd dair gwobr am Record Gorawl Orau’r Flwyddyn. Yn 2001 cafodd ei urddo yn MBE yn rhestr anrhydeddau’r Frenhines am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru, ac yn 2006 fe ddyfarnwyd iddo radd Doethuriaeth mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Hull. Yn yr un flwyddyn fe gyhoeddwyd ei hunangofiant, gyrhaeddodd restr hir Llyfr y Flwyddyn.
Mae Alwyn yn credu’n gryf mewn grym cerddoriaeth fel cyfrwng crefyddol, ac felly’n hynod falch o fod yn rhan o dim cyflwyno Dechrau Canu, Dechrau Canmol.
