Neidio at y cynnwys

S4C
Dechrau Canu Dechrau Canmol

Rhaglen y Pasg

Y Pasg

Bydd gwasanaeth y Pasg yn dod o’r Eglwys Farmor, Bodelwyddan. Bydd Barry Morgan, Archesgob Cymru, yn trafod gwir ystyr y Pasg iddo fe gyda Hywel Gwynfryn. Alwyn Humphreys fydd yn cyflwyno’r rhaglen hon a bydd Gwyn Hughes Jones yn canu Bara Angylion Duw sef Panis Angelicus yn y Gymraeg ynghyd â’r emyn-dôn Lausanne. Yr arweinyddes bydd Mari Pritchard gyda chynulleidfa gref yn canu emynau addas i’r achlysur.

Ymysg yr emynau hynny bydd emyn y Pasg Heddiw cododd Crist yn fyw, Hwn ydyw’r dydd y cododd Crist ar yr emyn-dôn Nativity a Arglwydd Iesu, ti faddeuaist ar yr emyn-dôn Hyfrydol. Y dewis amlwg i orffen y gwasanaeth bydd Crist a orchfygodd fore’r trydydd dydd ar yr emyn-dôn Macabeus. Bydd pedwar darlleniad ar y themau: Pedr yn bradychu, y gwadu, y croeshoelio a’r atgyfodiad.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales