Neidio at y cynnwys

S4C
Dechrau Canu Dechrau Canmol

Hanes y rhaglen

Rhaglen o gerddoriaeth ysbrydol a chrefyddol ydi Dechrau Canu Dechrau Canmol sydd wedi bod yn cael ei darlledu yn ddi-dor yng Nghymru ers 1961. Fe gafodd y rhaglen gyntaf ei chynhyrchu ar gyfer y BBC yng Nghapel y Triniti, Abertawe, a’r cyflwynydd cyntaf oedd y Parchedig Morgan Mainwaring. Mae’n ddiddorol nodi mai llwyddiant y gyfres gyntaf yma roddodd fod i’r gyfres Saesneg Songs of Praise.

Ers 1961, mae’r rhaglen wedi teithio capeli ac eglwysi Cymru ben baladr a thu hwnt. Ym mysg y cyflwynwyr dros y blynyddoedd mae Robin Williams, Rhys Jones, John Stuart Roberts a Meurwyn Williams.

Cymerodd S4C gyfrifoldeb am y gyfres yn 1991 ac erbyn hyn, Avanti, sydd wedi eu lleoli yn Porth yn y Rhondda sydd yn gyfrifol amdani.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales