Neidio at y cynnwys

S4C
Dechrau Canu Dechrau Canmol

Rhaglen 1

Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug

Recordiwyd y rhaglen arbennig hon dros yr haf yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug. Caiff Hywel Gwynfryn sgwrs gyda’r Prifardd Dic Jones am ei swydd fel yr archdderwydd newydd ac am ei brofiadau ysbrydol.

Bydd Martyn Geraint yn sgwrsio gydag Aled Davies am ei lyfr diweddaraf ar rygbi fydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod cyfnod Cwpan Rygbi’r Byd a bydd hefyd yn canu ar y maes gyda chriw o blant ifanc tu fas i babell Cyngor yr Eglwysi ar y maes.

Bydd eitem o Maes B gyda chriw'r Gorlan yn dangos gwaith Cristnogion ifanc yn ystod wythnos yr Eisteddfod a chân gan ddau aelod o Manna, Aled Myrddin a Rhodri Darcey. Bydd Martyn hefyd yn siarad gyda Sïon Meredydd yn y babell Tearfund lle mae Sïon yn esbonio beth mae Tearfund wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar ym maes y llifogydd mawrion.

Mae emynau’r rhaglen yn cael eu canu gan gynulleidfa gref oedd wedi ymgynnull o gwmpas cerrig yr orsedd ar y maes. Dyma raglen ychydig yn hirach na’r arfer, special ei naws i gychwyn cyfres newydd.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales