Neidio at y cynnwys

S4C

Rhaglen 19

Dathliad arbennig iawn o Ddiwrnod Teilo Sant o Amguedddfa Werin Cymru Sain Ffagan yng nghwmni Elin Manahan Thomas, gyda Hywel Gwynfryn yn cyflwyno.

Hefyd cafwyd y cyfle i glywed y canu cynulleidfaol o eglwys sydd wedi ei hail adeiladu a’i haddasu i’r hyn oedd ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, sef Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont – yr hen enw am Bontarddulais. Dyma un o fentrau mwyaf uchelgeisiol Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan hyd yma a bob blwyddyn ar ddiwrnod Teilo Sant, mae pobl Pontarddulais yn cael eu gwahodd i’r Amgueddfa i ddathlu Diwrnod Teilo.

Ymunodd Dechrau Canu yn y dathlu gan sgwrsio ag ambell aelod o’r gynulleidfa, a chafwyd perfformiadau arbennig o gerddoriaeth y cyfnod gan Elin Manahan Thomas yn cynnwys Bist du bei Mir gan Bach.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales