Rhaglen 2
Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Cymanfa ganu go arbennig o wersyll yr Urdd Llangrannog yng Ngheredigion gawn ni heno. Bydd y gynulleidfa leol yn canu nifer o emynau sydd ag arwyddocâd arbennig i’r mudiad ag sydd hefyd yn adlewyrchu arwyddair yr Urdd – byddaf ffyddlon i Gymru, i gyd- ddyn ac i Grist.
Ymysg yr emynau bydd Pen yr Yrfa – Dysg i mi garu Cymru, ei thir a’i broydd mwyn, Ag emyn yr Epilog nosweithiol - nefol Dad, mae eto’n nosi. Bydd Hywel Gwynfryn yn sgwrsio gyda nifer o aelodau o’r mudiad - yn eu plith Rhys Llwyd sy wedi ymweld a Rwmania i weithio mewn cartref plant amddifad fel rhan o raglen dyngarol yr Urdd a hefyd enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel – Rhys Taylor.
Bydd Rhys hefyd yn perfformio un gân Amazing Grace -oddi ar ei gryno ddisg ddiweddar. Parti lleol yw Ger y Lli a chanddyn nhw fe glywn ni drefniant o’r emyn Gwahoddiad a chân Affricaan – Sy a hamba – ‘De’n I’n cerdded‘, cân gan Robat Arwyn a gomisiynwyd i ddathlu daucanmlwyddiant sefydlu tref cyfagos Aberaeron glywn ni gan Cardi –gân – Gweddi Pysgotwr. Y cyflwynydd yw Hywel Gwynfryn ac arweinwyr y gân yw Greg Roberts a Rhian Dafydd.