Rhaglen 20
Cafwyd gwledd o ganu cynulleidfaol o Bafiliwn Môn. Bethan Elfyn fu'n cyflwyno ac Alwyn Humphreys oedd yn arwain y canu. Roedd y canu cynulleidfaol yn cynnwys yr emynau:
- Builth i’r geiriau “Rhagluniaeth Fawr y Nef”
- “Duw mawr y Rhyfeddodau maith” ar y dôn Rhydygroes
- “Un fendith dyro im” i’r emyn-dôn Sirioldeb
- “Gwyn a Gwridog Hawddgar iawn” ar yr emyn-dôn Llanfair a’r geiriau “Sicrwydd Bendigaid Iesu fy rhan” i’r emyn-dôn “Sicrwydd Bendigaid”
Bu Mair Parri yn sôn am y gwaith dyngarol mae wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd gyda thrigolion yr ynys, yn enwedig y plant lleol a’u gwaith o drefnu bocsys i blant Affrica. Fe glywson ni hefyd am eu hymweliad â Nairobi a’r cynlluniau ffynhonnau dŵr yno, ac arwyddocad Eglwys Llangwyfan, eglwys hynafol a diarffordd ar lan yr ynys, iddi hi. Yn ogystal bu Dylan Rees yn sôn am ei waith gyda chynllun y ‘Goleudy’ gyda’r di-gartref yng nghanol Caergybi a’r ffordd mae’r Cristnogion lleol yn cynorthwyo gyda’r gwaith.