Rhaglen 21
Yn y rhaglen hon cawsom fwynhau canu a chanmol o dref Caerfyrddin yng nghwmni Luned Tonderai. Bu Gareth Morris yn sôn am ei waith yn creu ffenestr lliw i eglwys Coleg y Drindod, ac am ei brofiadau ysbrydol.
Daeth y canu cynulleidfaol o eglwys Coleg y Drindod dan arweiniad Eilir Owen Griffiths. Cafwyd sgwrs gyda’r Parchedig Ainsley Griffiths, Caplan Eglwys y Coleg a Swyddog Addysg Weinidogaethol Barhaus Esgobaeth Tyddewi, am berthnasedd yr Eglwys i’r Coleg ac i Gaerfyrddin fel tref. Ymhlith emynau'r canu cynulleidfaol roedd “Arglwydd melys ydyw cerdded” a "Builth”.