Rhaglen 22
Ar benwythnos Gŵyl ein nawdd sant, fe glywson ni emynau o bob ran o Gymru yng nghwmni Hywel Teifi Edwards a Hywel Gwynfryn. Bu Hywel Teifi Edwards yn ein tywys ar daith arbennig iawn yn troedio ardaloedd ei fagwraeth a’i fywyd. Bu’n ymweld ag eglwysi a chapeli megis Capel Bethel ac Eglwys Llanddewi, Aberarth, Eglwys Henfynyw, Llanilltyd Fawr a Chapel Bryn Seion, Llangennech – oll yn lleoliadau sy’n golygu llawer iddo ac yn cyffroi’r enaid.
Fe glywson ni hefyd ddetholiad o emynau megis Dros Gymru’n Gwlad yn cael ei chanu gan Gôr Ieuenctid Cymru yn Eglwys Gadeiriol St Asaph, Iesu, Iesu Rwyt ti’n Ddigon yn cael ei ganu gan gynulleidfa gref yng Nghapel Tabernacl, Treforys, Tangnefeddwyr o Gapel Pisgah, Llandyssilio yn Sir Benfro, ac i orffen, geiriau W J Nicholas, Mae’r Haleliwia yn fy Enaid i ar yr emyn-dôn Pantyfedwen o ddigwyddiad Emyn i Gymru yn yr Afan Lido.