Rhaglen 26
Bethan Elfyn sy'n cyflwyno rhaglen nos Sul o Bontrhydfendigaid a Thregaron. Bydd cynulleidfa Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn canu pump emyn cyfarwydd ynghyd â’r ffefryn mwy cyfoes Iesu yw'r Iôr.
Yn ardal Tregaron, bydd David Bennett, Postfeistr Swyddfa Bost Tregaron, yn siarad am ei brofiadau yn ei waith, rôl y capel yn ei fywyd ac adnewyddiad y capel mae’n ei fynychu yng nghanol y dref.
Bydd Ifan Gruffydd, Tregaron, yn sôn am ei brofiadau ysbrydol wrth iddo dyfu i fyny yn yr ardal ac am agweddau myfyrdodol y byd amaethyddol. Mae hefyd yn gofyn ambell gwestiwn am grefydd yng Nghymru heddiw.