Neidio at y cynnwys

S4C
Dechrau Canu Dechrau Canmol

Rhaglen 27

Yn rhaglen hon byddwn yn clywed y canu cynulleidfaol o Wersyll yr Urdd, Llangrannog. Ymhlith yr emynau bydd y ffefrynnau modern Newyddion Braf, Aed yn Newydd, I Ddyddiau Glanio ar y Lloer, Heddiw Ddoe ac Yfory, Cerddwn Ymlaen, Diolch am Weddi'r Arglwydd a Ceisiwch yn Gyntaf. Martyn Geraint fydd yn cyflwyno o wahanol leoliadau o gwmpas y pentref adnabyddus.

Un o'r lleoliadau hyn ydy Eglwys Sant Caranog. Adeiladwyd yr eglwys wreiddiol o goed ar ddechrau'r chweched ganrif a mae’r eglwys yma'n dyddio'n ôl i 1885. Roedd Caranog yn ŵyr i Ceredig, a roddodd ei enw i sir Ceredigion a mae eglwysi yng Nghernyw, Gwlad yr Haf a Llydaw wedi eu henwi ar ei ôl hefyd. Mae'r rhan fwyaf o'r emyn gyntaf yn dyddio'n ôl i ganol y ddeunawfed ganrif, ond mae'r gytgan ond megis yn ei harddegau. Cafodd ei hychwanegu gan un o gymeriadau hynod yr ardal hon, sef y diweddar Barchedig Elfed Lewys, sef Newyddion Da a Ddaeth i’n Bro.

Bydd sgwrs hefyd gyda Ian ap Dewi, sydd ddim yn disgrifio'i hun fel person crefyddol ond sy'n cael cysur ac atgyfnerthiad moesol drwy fynychu Capel y Wig. Yn y capel hwn hefyd y cafodd Ann Tudfor Jones gymorth sylweddol i’w helpu trwy ddyddiau tywyll ei phrofedigaeth pan fu farw ei gŵr, a oedd yn gysylltiedig â theulu adnabyddus yn yr ardal sef Teulu'r Cilie.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales