Rhaglen 28
Oedfa Gyfoes
Martyn Geraint sy’n cyflwyno’r rhaglen hwn o ganu dyrchafol oedfa gyfoes. Yn ymuno â Martyn i arwain y canu bydd Aled Myrddin a Nia Pryce a chawn glywed ychydig mwy o’r hyn mae Aled Myrddin wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar a dros y flwyddyn diwethaf. Byddwn hefyd yn clywed cân unigol ganddo sef ei fersiwn ef o Dyrchefir Fi. Ymysg y caneuon mae’r gynulleidfa’n canu mae’r ffefrynnau Brenin Nef a Mor Dda yw Gair ein Duw. Fe glywn hefyd ychydig am yr hyn mae Andrew Griffiths o Ystradgynlais yn ei wneud yn ei waith pob dydd fel cerddor ac am yr hyn mae’n ei wneud gyda Chôr Eglwys Feiblaidd Cwm Tawe. Bydd Andrew hefyd yn arwain y côr hwnnw wrth iddyn nhw agor y rhaglen gyda’r gân Imaniwel a chloi’r rhaglen gyda Haleliwia!