Neidio at y cynnwys

S4C
Dechrau Canu Dechrau Canmol

Rhaglen 4

Maes yr Eisteddfod

Dechrau Canu Dechrau Canmol

Rydym yn dychwelyd am yr ail wythnos i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch. Yn ogystal â chlywed y canu cynulleidfaol oddi ar faes yr Eisteddfod – ffefrynnau megis geiriau Pantycelyn i emyn-dôn William Owen, Bryn Calfaria, 'Cymer, Iesu, fi fel 'rydwyf' – cawn glywed dau a fagwyd yng Nghaerdydd, Rhidian Marc ac Emyr James, yn cydganu. Cawn wybod mwy gan Sian Llewelyn am gyrsiau anffurfiol Alffa, sy'n cael eu mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn hefyd yn cael ymateb y Parchedig Evan Morgan a Rhys Llwyd i'r ddrama ddadleuol Iesu! gan Theatr Genedlaethol Cymru ac a lwyfannwyd yn Theatr y Sherman.

Dechrau Canu Dechrau Canmol

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales