Rhaglen 5
Yn ystod y rhaglen cawn y pleser o gwmni Trebor Edwards – gŵr diymhongar sydd yn gerddor amryddawn, yn ben teulu gofalus, yn ffermwr wrth reddf, ac hefyd yn Gristion. Fe gawn gip olwg ar ei fywyd personol yn ystod blwyddyn brysur iawn iddo fel Llywydd y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Fe fydd Trebor yn perfformio dwy glasur i ni – Un dydd ar y Tro a Tosturi Duw. Arweinyddes lleol – Margaret Edwards sydd yn arwain y gân yng Nghapel y Gro, Betws Gwerfyl Goch.