Rhaglen 3
Daw’r rhaglen Dechrau Canu, Dechrau Canmol heno o Frynsiencyn, Ynys Môn, cartref genedigol y gantores boblogaidd Margaret Williams.
Bydd yn mynd n’ôl ‘adre’ yng nghwmni Bethan Elfyn ac yn ymweld â’r lleoliadau oedd yn bwysig iddi yn ystod ei phlentyndod – y capel, yr eglwys ac Eglwys Biwmaris.
Bydd yn canu nifer o ganeuon ac yn eu plith hen glasur Tecwyn Ifan – ‘Bytholwyrdd’ a ‘Milwaukee’.
Bydd hefyd yn canu gyda dau gôr o’r ardal – Côr Seiriol – yn canu ‘Estyn dy Ddwylo’, a Chôr Theatr Ieuenctid Môn – gyda cyfieithiad o gân a wnaethpwyd yn boblogaidd beth amser yn ôl gan y grŵp Westlife – ‘You Raise me Up’ – ‘Dyrchefir Fi’.