Neidio at y cynnwys

S4C
Dechrau Canu Dechrau Canmol

Rhaglen 30

Oedfa Blant Bont 2

Ieuenctid a chynulleidfa o Geredigion fu'n cyd-ganu yn y rhaglen hon o bafiliwn Pontrhydfendigaid. Cafwyd sgwrs gydag Ifan Evans, cyflwynydd ifanc y gyfres 'Mosgito' a gafodd ei fagu yng Ngheredigion, yn sôn am ei ymlyniad i eglwys ym mro ei febyd. Mae e hefyd yn sôn am ddylanwad yr ysgol Sul arno wrth dyfu i fyny. Hefyd sgwrs gyda Susan Reis Williams, sy’n byw ym Mhen Llŷn, yn siarad am ei gwaith gyda ieuenctid a'i phrofiadau'n ifanc hefyd yn y Beach Missions ym Mhen Llŷn. Hefyd bu'n siarad am sut y cyfansoddodd ei chân 'Cariad' cyn i ni weld perfformiad fideo o Susan ei hun yn canu'r gân.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales